Llyfr Gwyddoniaeth CA3
Postiwyd: Mer 11 Ion 2012 5:12 pm
Nid wyf yn gwybod os yw hwn yn y man cywir felly symudwch ef os rhaid. Rwyf wedi bod yn helpu aelod o'r teulu wrth iddi wneud gwaith Gwyddonieath CA3 ac adolygu ayyb. Dwi'n cael hi'n anodd a dweud y gwir gan mae Saesneg y gwnes i'r 'pwnc' yma. Ond nid yn unig hyn, dwi wedi anghofio'r pwnc ei hun. Gall rhywun awgrymu llyfr neu lyfrau ar y lefel yma fyddai'n addas? Neu/ac wefan/au addas? Dwi'n gwybod fod un neu ddau wyddonydd yma. Felly, gobeithio fy mod i ddim wedi tynnu gormod o flew o'u trwyne ar hyd y blynydde diweddar 'ma.