Tudalen 1 o 2

Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2012 5:12 pm
gan Nanog
Nid wyf yn gwybod os yw hwn yn y man cywir felly symudwch ef os rhaid. Rwyf wedi bod yn helpu aelod o'r teulu wrth iddi wneud gwaith Gwyddonieath CA3 ac adolygu ayyb. Dwi'n cael hi'n anodd a dweud y gwir gan mae Saesneg y gwnes i'r 'pwnc' yma. Ond nid yn unig hyn, dwi wedi anghofio'r pwnc ei hun. Gall rhywun awgrymu llyfr neu lyfrau ar y lefel yma fyddai'n addas? Neu/ac wefan/au addas? Dwi'n gwybod fod un neu ddau wyddonydd yma. Felly, gobeithio fy mod i ddim wedi tynnu gormod o flew o'u trwyne ar hyd y blynydde diweddar 'ma. :)

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2012 6:38 pm
gan ceribethlem
Dyn ni ddim yn defnyddio llyfrau o gwbwl. Cynllyn sgiliau ac ymchwilio sydd gyda ni nawr.
Serch hynny mae llyfrau Gwefr Gwyddoniaeth yn rhai da. Ddim yn siwr os ydyn nhw'n dal i gael eu gwneud, cofia.

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2012 7:27 pm
gan Nanog
Diolch i ti.

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2012 11:46 am
gan ceribethlem
Gwefr Gwyddoniaeth 8

Gwefr Gwyddoniaeth 9

Mae'r ddau ar gael o amazon ar y linciau uchod.
Nid llyfrau adolygu ydyn nhw, ond testun lyfrau. Serch hynny, mae nifer o gwestiynnau yn y llyfrau byddai'n fanteisiol wrth adolygu.

Yn anffodus mae'r mwyafrif o lyfrau adolygu yn Saesneg, ac yn rhai drud iawn am r hyn wyt ti'n ei gael.
Fe ddylai'r aelod yma o'r teulu cael ei lefelu yn ol ei safon gwaith ymchwilio, yn hytrach na'i chanlyniadau.
Wyt ti (neu ydy hi) wedi defnyddio gwefan Tacteg?

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ion 2012 8:57 pm
gan Duw
http://www.amazon.co.uk/Gwyddoniaeth-Cy ... 1856445232

Mae hwnna'n un da am grynodeb o'r hen gwrs CA3. Cynnwys yn hytrach na sgiliau shwt.

Y ffordd i gynyddu lefelau plentyn nawr yw i ffocysu ar sgiliau. Mae 14 maes penodol.

Gallet ti gael y poster disgrifiadau lefel o fan hyn:

http://wales.gov.uk/docs/dcells/publica ... stercy.pdf

Hefyd mae gan NGFL lawer o adnoddau ar-lein yma:

http://www.ngfl-cymru.org.uk/cym/vtc-ho ... -science(2)

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Sad 14 Ion 2012 9:50 am
gan Chickenfoot
ceribethlem a ddywedodd:Dyn ni ddim yn defnyddio llyfrau o gwbwl. Cynllyn sgiliau ac ymchwilio sydd gyda ni nawr.


Just the ticket. Swnio fel y ffordd i fynd - roedd gormod o "book learning" yn fy ngwersi gwyddoniaeth i, a lleihaodd fy niddordeb yn y pwnc io ganlyniad.

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2012 9:26 am
gan Josgin
A beth am dy wybodaeth ?

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2012 12:18 pm
gan ceribethlem
Josgin a ddywedodd:A beth am dy wybodaeth ?

Gwybodaeth pwy?

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2012 1:47 pm
gan Josgin
Chickenfoot

Re: Llyfr Gwyddoniaeth CA3

PostioPostiwyd: Iau 19 Ion 2012 7:51 pm
gan Nanog
Duw a ddywedodd:http://www.amazon.co.uk/Gwyddoniaeth-Cyfnod-Allweddol-Llyfr-Adolygu/dp/1856445232

Mae hwnna'n un da am grynodeb o'r hen gwrs CA3. Cynnwys yn hytrach na sgiliau shwt.



Edrych fel bod hwnna allan o brint. Trueni, mae'n edrych yn dda at beth rwyf eisiau. Dwi'n mynd i brynnu'r ddau gwnaeth Ceribethlehem awgrymu. A diolch i chi gyd am eich awgrymiadau.