Tudalen 1 o 1

smo

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2012 12:10 pm
gan Deric John
Shwd i chi? Rwyf newydd ymuno 'da chi ac mae eisiau help arna i os gwelwch yn dda. Beth ydy'r ffurf ramadegol safonol am y ffurf dafodieithol 'smo' megis 'smo i'n mynd'?
Diolch ymlaen llaw,
Deric John.

Re: smo

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2012 12:55 pm
gan sian
Helo! Croeso!

Yn ffurfiol iawn:
Nid wyf yn mynd

Yn llai ffurfiol - dysgu i ddysgwyr?:
Dydw i ddim yn mynd

Hefyd yn anffurfiol:
Dw i ddim yn mynd

Tafodieithol, de orllewin:
Sa i'n mynd

Ddywedodd rhywun wrtha i rhywdro bod "Smo i'n mynd" yn dod o "Nid oes dim ohonof i yn mynd" ond dw i ddim yn gwyod ydi hynny'n wir.

Re: smo

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2012 1:32 pm
gan Deric John
Diolch yn fawr Sian.
Mi ddarllenais i am 'nid oes dim ohonof i yn mynd' hefyd, ond fel chithe, dw i ddim wedi fy mherswadio gyda fe. Mi fydden i'n erfyn 'sdimo i'n mynd' o'r fath darddiad.
Hwyl,
Deric.

Re: smo

PostioPostiwyd: Sad 14 Ebr 2012 2:51 am
gan JVD33
Oes rhywun yn gwybod beth yw tarddiad "sai" a "smo" ayyb?

Re: smo

PostioPostiwyd: Llun 16 Ebr 2012 10:18 pm
gan Seonaidh/Sioni
Rwi'n credu fod "'d oes dim ohonof" yn iawn. Cysidro "dwnim", neu "nid wn i ddim": yno, mae'r "dd" wedi diflannu ar lafar.

"Sai": gall hyn ddod o "''d oes ohonof i". Yn hytrach na "Nid wn i ddim" => "Dwn i'm" a glywir yn y Gogledd, yn y De clywir yn bur aml "Nid oes ohonof i yn gwybod" => "Sai'n gwbod"

Agus nuair a chunnaic mi "smo" - A phan welais i "smo" - ro'n i'n credu mai am Sabhal Mòr Ostaig oedd yr edefyn hwn...

Re: smo

PostioPostiwyd: Llun 16 Ebr 2012 11:04 pm
gan sian
Yn rhyfedd iawn, mae hyn yn cael ei drafod ar Forum Wales ar hyn o bryd hefyd.

Ac, fel y dywed Brychan - cyfieithiad llac:

"Fyddech chi'n meddwl, os yw "so fe" yn dod o "nid oes dim ohono fe", fyddai'r tag gofynnol "os e?" yn cael ei ddefnyddio.

"Dyw e ddim yn dod nawr, nag yw e?" - he's not coming now is he

But if you use so fe - shouldn't you say:
"So fe'n dod nawr nag os e" - "Does dim ohono fe'n dod nawr nag oes e?"
Os oes rhywun yn dweud hynny nawr neu wedi'i ddweud yn y gorffennol, mae'n sicrh bod 'so fe' yn dod o 'nid oes dim ohono fe'

Re: smo

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ebr 2012 10:51 pm
gan JVD33
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Rwi'n credu fod "'d oes dim ohonof" yn iawn. Cysidro "dwnim", neu "nid wn i ddim": yno, mae'r "dd" wedi diflannu ar lafar.

"Sai": gall hyn ddod o "''d oes ohonof i". Yn hytrach na "Nid wn i ddim" => "Dwn i'm" a glywir yn y Gogledd, yn y De clywir yn bur aml "Nid oes ohonof i yn gwybod" => "Sai'n gwbod"

Agus nuair a chunnaic mi "smo" - A phan welais i "smo" - ro'n i'n credu mai am Sabhal Mòr Ostaig oedd yr edefyn hwn...

Diddorol iawn. O ble gest ti'r wybodaeth hon?