Tudalen 1 o 1

Athro ail iaith neu Iaith Gyntaf?

PostioPostiwyd: Maw 26 Meh 2012 7:05 pm
gan geraintabertawe
Noswaith dda bawb.

Rwy'n newydd raddio yn y Gymraeg. Hyd yn hyn, fy mwriad o'r cychwyn oedd hyfforddi'n athro ail iaith ond nawr fy mod wedi ennill gradd, rwy'n bell o'm pen ar gyfer pa drywydd i'w ddilyn, h.y. hyfforddi'n athro iaith gyntaf neu ail iaith - beth yw'r fanteision/anfanteision rhyngddynt? A oes unrhyw un yn gallu taflu syniadau ataf er mwyn imi benderfynu. Diolch yn fawr :-)

Re: Athro ail iaith neu Iaith Gyntaf?

PostioPostiwyd: Iau 28 Meh 2012 5:58 am
gan Josgin
Gofyn cwestiwn i ti dy hun. A wyt yn fodlon derbyn gwawd a sarhad er mwyn cael posibilrwydd cymharol fychan o lwyddiant ? .
A wyt yn ystyried dysgu ail iaith (a) O fewn ysgolion 'traddodiadol' Cymraeg ? neu (b) ysgolion Saesneg ?
Dim pob plentyn ail-iaith yng Nghymru sy'n darpar ennillyd medal y dysgwyr !

Re: Athro ail iaith neu Iaith Gyntaf?

PostioPostiwyd: Iau 28 Meh 2012 6:27 am
gan ceribethlem
Dim ond rhyw wers yr wythnos bydd disgyblion ail iaith yn ei dderbyn. Bydd hyn yn ei wneud yn anodd cael dilyniant o fewn y gwersi. Serch hynny, tybiaf (heb wybod gan mai gwyddoniaeth yw fy mhwnc) fod y wefr o gael llwyddiannau ail iaith yn fwy.

Fy nghyngor i fyddai siarad gyda'r Brifysgol er mwyn cael un lleoliad mewn ysgol iaith gyntaf ac yna lleoliad arall mewn ysgol ail iaith. Bydd hwn yn rhoi syniad i ti o'r hyn gall dy wynebu.

Re: Athro ail iaith neu Iaith Gyntaf?

PostioPostiwyd: Gwe 06 Gor 2012 7:20 pm
gan xxglennxx
Dwi wedi hyfforddi'n athro Cymraeg ail iaith yn benodol, ond wedi gwneud peth cyflenwi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Gwir yw'r hyn a ddywedir gan Josgin i raddau; o ran ail iaith cyfrwng Saesneg, mi gewch sylwadau sarhaus ac agweddau gwrth-Gymraeg, a hynny gan yr athrawon a'r disgyblion. Y disgyblion sy'n cwyno ("I don wanna do Welsh sir. It's rubbish. I won need it." Blah blah blah) yw'r un disgyblion sy'n cwyno o flwyddyn saith hyd flwyddyn unarddeg, hynny yw, am bob un pwnc!

Ond wedi dweud hynny, dwi wedi dod ar draws siaradwyr "iaith gyntaf" mewn ysgolion Cymraeg sydd â chaffael gwael ar yr iaith - mae'n debyg i ddisgyblion ysgolion Saesneg sy'n wael eu caffaeliaid yn yr iaith fain. Dwi hefyd wedi gweld siaradwyr iaith gyntaf yn pallu siarad yr iaith yn yr ysgol... Felly mae dwy ochr i bopeth.

Imi yn bersonol, dwi am addysgu'r di-Gymraeg i siarad yr heniaith, yn hytrach nag addysgu'r rhai sydd wedi caffael yr iaith yn barod. Ond pan fo disgyblion Saesneg eu hiaith yn dechrau mynegi barn a chychwyn ar siarad y Gymraeg o'th flaen, wedyn ceir boddhad a phob dim arall sy'n dod â fe.

Fel yr hyn a ddywedwyd yn barod - addysgu mewn ysgol Gymraeg ei hiaith a Saesneg ei hiaith - yr hyn sy'n dy fodloni orau yw'r ffrwd iti :)

Re: Athro ail iaith neu Iaith Gyntaf?

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2012 4:05 pm
gan geraintabertawe
Diolch i bawb am yr ymateb. Cofion caredig :-)