Dwi wedi hyfforddi'n athro Cymraeg ail iaith yn benodol, ond wedi gwneud peth cyflenwi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Gwir yw'r hyn a ddywedir gan Josgin i raddau; o ran ail iaith cyfrwng Saesneg, mi gewch sylwadau sarhaus ac agweddau gwrth-Gymraeg, a hynny gan yr athrawon a'r disgyblion. Y disgyblion sy'n cwyno ("I don wanna do Welsh sir. It's rubbish. I won need it." Blah blah blah) yw'r un disgyblion sy'n cwyno o flwyddyn saith hyd flwyddyn unarddeg, hynny yw, am bob un pwnc!
Ond wedi dweud hynny, dwi wedi dod ar draws siaradwyr "iaith gyntaf" mewn ysgolion Cymraeg sydd â chaffael gwael ar yr iaith - mae'n debyg i ddisgyblion ysgolion Saesneg sy'n wael eu caffaeliaid yn yr iaith fain. Dwi hefyd wedi gweld siaradwyr iaith gyntaf yn pallu siarad yr iaith yn yr ysgol... Felly mae dwy ochr i bopeth.
Imi yn bersonol, dwi am addysgu'r di-Gymraeg i siarad yr heniaith, yn hytrach nag addysgu'r rhai sydd wedi caffael yr iaith yn barod. Ond pan fo disgyblion Saesneg eu hiaith yn dechrau mynegi barn a chychwyn ar siarad y Gymraeg o'th flaen, wedyn ceir boddhad a phob dim arall sy'n dod â fe.
Fel yr hyn a ddywedwyd yn barod - addysgu mewn ysgol Gymraeg ei hiaith a Saesneg ei hiaith - yr hyn sy'n dy fodloni orau yw'r ffrwd iti