Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati
Cymedrolwr: Gwen
Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati.
gan garik » Iau 14 Chw 2013 3:48 pm
Ydy pobl yma'n cytuno efo fi fod "Babis Anifieiliad" () yn gyfieithiad eitha tôn-fyddar o "Baby Animals"?
Hefyd, hoffwn glywed perspectifau pobl ar lyfrau fel hyn sydd â chyfieithiad Saesneg o'r testun Cymraeg ar bob tudalen? Dwi'n byw yn Efrog Newydd ac mae fy ngwraig yn Saesneg. Mae fy mab yn gweld ac yn clywed digonedd o Saesneg. Hoffwn gael mwy o lyfrau Cymraeg heb ddim Saesneg ynddynt o gwbl (ond dwi'n deall bod y rhai dwyieithog yn gwerthu'n well)...
-

garik
- Defnyddiwr

-
- Negeseuon: 26
- Ymunwyd: Sad 10 Rhag 2005 7:40 pm
- Lleoliad: Efrog Newydd
gan sian » Iau 14 Chw 2013 4:37 pm
Ie, dyw e ddim yn swnio'n Gymreigaidd iawn - ond mae "Anifeiliaid Bach" yn debygol o gael ei gam-ddeall. Oes gen ti awgrym?
Dw i'n tueddu i chwilio am lyfrau heb y geiriau Saesneg i'w rhoi'n anrhegion.
Dw i ddim yn cofio cael y broblem hon pan oedd ein plant ni'n fach - ond mae tua 20 mlynedd ers hynny!
-
sian
- Gweinyddwr

-
- Negeseuon: 3413
- Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
- Lleoliad: trefor
-
gan garik » Iau 14 Chw 2013 5:04 pm
Dwi'n meddwl sa "Anifeiliaid bach" wedi bod yn well; mae'r posibilrwydd o gamdeall yn eitha bychan yn fy marn i -- neu, o leia, yn eitha dibwys. Hyd yn oed os mae rhai pobl yn meddwl mai llyfr am anifeiliad llai eu maint yw hwn, ydy hynny'n mynd i achosi problemau mawr?
-

garik
- Defnyddiwr

-
- Negeseuon: 26
- Ymunwyd: Sad 10 Rhag 2005 7:40 pm
- Lleoliad: Efrog Newydd
Dychwelyd i Defnydd yr Iaith
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai