Ydy pobl yma'n cytuno efo fi fod "Babis Anifieiliad" (http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781855969018&tsid=2) yn gyfieithiad eitha tôn-fyddar o "Baby Animals"?
Hefyd, hoffwn glywed perspectifau pobl ar lyfrau fel hyn sydd â chyfieithiad Saesneg o'r testun Cymraeg ar bob tudalen? Dwi'n byw yn Efrog Newydd ac mae fy ngwraig yn Saesneg. Mae fy mab yn gweld ac yn clywed digonedd o Saesneg. Hoffwn gael mwy o lyfrau Cymraeg heb ddim Saesneg ynddynt o gwbl (ond dwi'n deall bod y rhai dwyieithog yn gwerthu'n well)...