Tudalen 1 o 1

Llyfrau Cymraeg i blant (a chyfieithiadau tôn-fyddar)

PostioPostiwyd: Iau 14 Chw 2013 3:48 pm
gan garik
Ydy pobl yma'n cytuno efo fi fod "Babis Anifieiliad" (http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781855969018&tsid=2) yn gyfieithiad eitha tôn-fyddar o "Baby Animals"?

Hefyd, hoffwn glywed perspectifau pobl ar lyfrau fel hyn sydd â chyfieithiad Saesneg o'r testun Cymraeg ar bob tudalen? Dwi'n byw yn Efrog Newydd ac mae fy ngwraig yn Saesneg. Mae fy mab yn gweld ac yn clywed digonedd o Saesneg. Hoffwn gael mwy o lyfrau Cymraeg heb ddim Saesneg ynddynt o gwbl (ond dwi'n deall bod y rhai dwyieithog yn gwerthu'n well)...

Re: Llyfrau Cymraeg i blant (a chyfieithiadau tôn-fyddar)

PostioPostiwyd: Iau 14 Chw 2013 4:37 pm
gan sian
Ie, dyw e ddim yn swnio'n Gymreigaidd iawn - ond mae "Anifeiliaid Bach" yn debygol o gael ei gam-ddeall. Oes gen ti awgrym?

Dw i'n tueddu i chwilio am lyfrau heb y geiriau Saesneg i'w rhoi'n anrhegion.
Dw i ddim yn cofio cael y broblem hon pan oedd ein plant ni'n fach - ond mae tua 20 mlynedd ers hynny!

Re: Llyfrau Cymraeg i blant (a chyfieithiadau tôn-fyddar)

PostioPostiwyd: Iau 14 Chw 2013 5:04 pm
gan garik
Dwi'n meddwl sa "Anifeiliaid bach" wedi bod yn well; mae'r posibilrwydd o gamdeall yn eitha bychan yn fy marn i -- neu, o leia, yn eitha dibwys. Hyd yn oed os mae rhai pobl yn meddwl mai llyfr am anifeiliad llai eu maint yw hwn, ydy hynny'n mynd i achosi problemau mawr?