Tudalen 1 o 1

Cwestiwn syml: Gyrru a dreifio

PostioPostiwyd: Maw 11 Meh 2013 4:20 pm
gan garik
Mae rhai pobl yn defnyddio'r gair "dreifio" i olygu "drive" a'r gair "gyrru" i olygu "drive like a maniac".

Ydy hyn yn wir ohonych chi? O ble dych chi'n dod?

Re: Cwestiwn syml: Gyrru a dreifio

PostioPostiwyd: Gwe 14 Meh 2013 1:27 pm
gan ceribethlem
Yn ardal Dinefwr bydden i'n dweud dreifo ar lafar, ond gyrru os yn bod yn fwy ffurfiol.

Re: Cwestiwn syml: Gyrru a dreifio

PostioPostiwyd: Sad 15 Meh 2013 7:07 pm
gan Josgin
Yn ardal Arfon, os ydi rhywun yn dweud " Mae o'n un am yrru ", golygu ' speedio' mae hynny.
Mae pobl yn dweud gyrru a dreifio fel arall. " Dwi'n gyrru/dreifio yno 'fory"

Re: Cwestiwn syml: Gyrru a dreifio

PostioPostiwyd: Sul 16 Meh 2013 12:41 am
gan garik
Diolch am yr atebion! Josgin, oes gennyt ti syniad faint more bell i'r de mae hyn yn ymestyn?

Ydy pobl yn deall "gyrru" fel "speedio" mewn unrhyw gyddestun yn ardal Machynlleth, er enghraifft?

Re: Cwestiwn syml: Gyrru a dreifio

PostioPostiwyd: Maw 18 Meh 2013 11:46 am
gan Josgin
Dim syniad - byth yn 'gyrru' mor bell i'r De a hynny !