Tudalen 1 o 1

he'd li ?

PostioPostiwyd: Maw 03 Rhag 2013 10:19 pm
gan ffŵl-yn-ôl-ei-enw
newydd ymuno - w i yn darllen hon: http://kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_057_atgofion_hen_lowr_1934_1482k.htm

beth yw ystyr 'he'd li' ? dw i ddim wedi ei chlywed o'r blan.. :-\

hefyd: 'ar mencos i'

Re: he'd li ?

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2015 8:59 pm
gan crwtyn
Oce, mae'r ymateb yma'n hwyr iawn ond dyna ni:

'he'd' = 'hefyd' (yn gyffredin iawn yng Nghwm Tawe a dwyrain Sir Gar.

'li' = 'weli di'?

'ar mencos i' = ebychiad fel 'myn jiawch i!'.

Re: he'd li ?

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2015 7:43 am
gan ffŵl-yn-ôl-ei-enw
Diolch am eich ateb.
Mae'n amlwg nawr ta' "hefyd" yw fe!
Ers imi bostio'r neges, 'rwy wedi dod o hyd i hyn ar-lein - "ar mencos i" = ar f’einioes i / upon my life! (ar 'ym ein(g)ioes)
:lol: