beth yw ystyr 'he'd li' ? dw i ddim wedi ei chlywed o'r blan.. :-\
hefyd: 'ar mencos i'
Re: he'd li ?
Postiwyd: Sul 12 Ebr 2015 8:59 pm
gan crwtyn
Oce, mae'r ymateb yma'n hwyr iawn ond dyna ni:
'he'd' = 'hefyd' (yn gyffredin iawn yng Nghwm Tawe a dwyrain Sir Gar.
'li' = 'weli di'?
'ar mencos i' = ebychiad fel 'myn jiawch i!'.
Re: he'd li ?
Postiwyd: Llun 13 Ebr 2015 7:43 am
gan ffŵl-yn-ôl-ei-enw
Diolch am eich ateb. Mae'n amlwg nawr ta' "hefyd" yw fe! Ers imi bostio'r neges, 'rwy wedi dod o hyd i hyn ar-lein - "ar mencos i" = ar f’einioes i / upon my life! (ar 'ym ein(g)ioes)