gwahoddiad priodas
Postiwyd: Gwe 07 Chw 2014 12:34 am
Helo!
Mae rhaid i fi anfon gwahoddiadau priodas ac mae gen i ambell gwestiwn ynglyn a geirio a threigladau. Dyma'r drafft diweddaraf (rwy wedi newid enwau, dyddiad ayyb, chewch chi ddim i gyd ddod!)
Hoffai
Helen Jones
a
Sam Williams
pleser eich cwmni i ddathlu eu priodas
yng Nghapel Bethel, Aberaman
Ddydd Sadwrn Awst y 19eg 2014
am 12 o'r gloch
Bydd gwledd a thwmpath
yn dilyn y serimoni yn
Brown Court, Bwlch, Aberhonddu
Bydd bws ar gael ar ol y serimoni i gludo gwesteion
i Brown Court ac yna yn ol i Aberaman ar ol y parti priodas
Beth chi'n meddwl am beth rwy di sgwennu? Unrhyw syniadau i'w wella? Basech chi'n newid unrhyw ran?
Ydw i wedi rhannu'r testyn yn iawn? e.e. dylwn i rannu'r testyn ar ol 'priodas', neu ar ol 'yng' (llinellau 5 a 6)?
Beth sy'n gywir, y pleser o'ch cwmni neu pleser eich cwmni?
Rwy mewn penbleth ynglyn a os dylwn i sgwennu Dydd Sadwrn, Ddydd Sadwrn ynteu ar ddydd Sadwrn. Rwy'n cofio rhyw reol ynglyn a defnyddio 'ddydd Sadwrn' ac 'ar ddydd Sadwrn', rwy'n gwybod bod un yn cyfleu gweithred arferol/cyson (e.e. [Ar] ddydd Sadwrn af i'r farchnad) a'r llall yn cyfleu rhywbeth penodol (Sut bydd y tywydd [ar] ddydd Sadwrn?), ond sai'n cofio pa un yw p'un Rwy'n teimlo fel petai 'ar ddydd Sadwrn' yn fwy o gyfieithiad o'r Saesneg.
Gyda llaw, dylwn i ddefnyddio priflythyren ar gyfer y gair dydd?
A sut mai sgwennu'r dyddiad yn gywir? Awst y 19eg Awst 19eg Y 19eg o Awst
Llawer iawn o gwestiynau ond mae angen help arna'i! Baswn i'n gwerthfawrogi hyd yn oed y darn lleiaf o gymorth
Diolch i chi