Tudalen 1 o 1

gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Gwe 07 Chw 2014 12:34 am
gan mariamottola
Helo!

Mae rhaid i fi anfon gwahoddiadau priodas ac mae gen i ambell gwestiwn ynglyn a geirio a threigladau. Dyma'r drafft diweddaraf (rwy wedi newid enwau, dyddiad ayyb, chewch chi ddim i gyd ddod!)

Hoffai
Helen Jones
a
Sam Williams
pleser eich cwmni i ddathlu eu priodas
yng Nghapel Bethel, Aberaman
Ddydd Sadwrn Awst y 19eg 2014
am 12 o'r gloch

Bydd gwledd a thwmpath
yn dilyn y serimoni yn
Brown Court, Bwlch, Aberhonddu

Bydd bws ar gael ar ol y serimoni i gludo gwesteion
i Brown Court ac yna yn ol i Aberaman ar ol y parti priodas

Beth chi'n meddwl am beth rwy di sgwennu? Unrhyw syniadau i'w wella? Basech chi'n newid unrhyw ran?

Ydw i wedi rhannu'r testyn yn iawn? e.e. dylwn i rannu'r testyn ar ol 'priodas', neu ar ol 'yng' (llinellau 5 a 6)?

Beth sy'n gywir, y pleser o'ch cwmni neu pleser eich cwmni?

Rwy mewn penbleth ynglyn a os dylwn i sgwennu Dydd Sadwrn, Ddydd Sadwrn ynteu ar ddydd Sadwrn. Rwy'n cofio rhyw reol ynglyn a defnyddio 'ddydd Sadwrn' ac 'ar ddydd Sadwrn', rwy'n gwybod bod un yn cyfleu gweithred arferol/cyson (e.e. [Ar] ddydd Sadwrn af i'r farchnad) a'r llall yn cyfleu rhywbeth penodol (Sut bydd y tywydd [ar] ddydd Sadwrn?), ond sai'n cofio pa un yw p'un :( Rwy'n teimlo fel petai 'ar ddydd Sadwrn' yn fwy o gyfieithiad o'r Saesneg.

Gyda llaw, dylwn i ddefnyddio priflythyren ar gyfer y gair dydd?

A sut mai sgwennu'r dyddiad yn gywir? Awst y 19eg Awst 19eg Y 19eg o Awst

Llawer iawn o gwestiynau ond mae angen help arna'i! Baswn i'n gwerthfawrogi hyd yn oed y darn lleiaf o gymorth :)

Diolch i chi

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Gwe 07 Chw 2014 8:10 am
gan sian
W! Cyffrous!

1) Dydw i ddim yn siwr a ydi "the pleasure of your company" yn gweithio yn Gymraeg.
Beth am rywbeth fel:

Byddai'n bleser gan
Helen Jones
a
Sam Williams
gael eich cwmni i ddathlu eu priodas … ?

2) Dwi'n meddwl bod "Ddydd Sadwrn" yn iawn heb yr "ar"; swn i'n rhoi "d" fach ar ddechrau "ddydd"
3) Mae "Awst y 19eg" yn iawn. Fel rheol, fydda i'n gweld jest "19 Awst" yn daclusach ond efallai, gyda gwahoddiad priodas, bod angen mwy o steil!
4) sillafu "seremoni" x2
5) Angen to ar yr "o" yn "ôl" x3 yn y frawddeg olaf

Dymuniadau gorau!

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Gwe 07 Chw 2014 9:48 am
gan mariamottola
Diolch yn fawr iawn am yr help! Rwy'n ei werthfawrogi'n fawr iawn, yn enwedig gan bod rhaid i fi rhoi'r testyn i'r fenyw sy'n gwneud y gwahoddiadau cyn ddydd Llun!

Nawr rwy'n mynd i fanteisio ar eich caredigrwydd wrth ofyn am fwy o gymorth, os gaf i?

Oes na fformwla am RSVP?

Pa un (os mae na un!) chi'n meddwl sy'n iawn o'r rhain...

Gwerthfawrogwn ateb cyn Mehefin y 30ain 2014

Ateber erbyn Mehefin y 30ain 2014 os gwelwch yn dda

Gwerthfawrogwn petaech yn (ym)ateb erbyn Mehefin y 30ain 2014


Ac wedyn ar gyfer y parti yn y nos base hwn yn gywir?

Hoffai
Helen Jones a Sam Williams
eich gwahodd i'w parti priodas ar
nos Sadwrn, Awst y 19eg 2014
am 7 o'r gloch yn
Brown Court, Bwlch, Aberhonddu.

Des i o hyd i 'derbyniad priodas' ar y we, ydy e'n gywir???

Diolch eto

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Sad 08 Chw 2014 10:17 am
gan sian
Hm!
mariamottola a ddywedodd:Gwerthfawrogwn ateb cyn Mehefin y 30ain 2014


Mae "Gwerthfawrogwn" yn gallu golygu: Rydym ni'n gwerthawrogi nawr / Byddwn ni'n gwerthawrogi yn y dyfodol // We appreciate / We will appreciate
Mae hefyd yn gallu golygu: Byddwn i'n gwerthfawrogi / I would appreciate

Y ffordd 'gywir' o ddweud "We would appreciate" yw "Gwerthfawrogem".

Felly:
"Gwerthfawrogem ateb erbyn Mehefin y 30ain 2014" neu
"Gwerthfawrogem petaech yn ateb erbyn Mehefin y 30ain 2014"

Ydi hynny'n swnio braidd yn stiff?

Mae
mariamottola a ddywedodd:Ateber erbyn Mehefin y 30ain 2014 os gwelwch yn dda

yn iawn hefyd ond efallai'n swnio braidd yn ffurfiol ar gyfer priodas.

Byddai "Atebwch erbyn Mehefin y 30ain 2014 os gwelwch yn dda" yn gywir - ac yn cyfateb i RSVP ond efallai'n swnio'n bossy!

"Edrychwn ymlaen at gael eich ateb erbyn Mehefin y 30ain 2014" efallai?

mariamottola a ddywedodd:Ac wedyn ar gyfer y parti yn y nos base hwn yn gywir?

Hoffai
Helen Jones a Sam Williams
eich gwahodd i'w parti priodas ar
nos Sadwrn, Awst y 19eg 2014
am 7 o'r gloch yn
Brown Court, Bwlch, Aberhonddu.


Base!

mariamottola a ddywedodd:Des i o hyd i 'derbyniad priodas' ar y we, ydy e'n gywir???

Mae "derbyniad" yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai mathau o "receptions" - busnes ac ati. Mae "gwledd" yn fwy cyffredin am briodas. Mae "neithior" yn hen air am "wledd briodas". Fuodd rhai pobl yn treio'i atgyfodi ond dyw e ddim wedi dod yn gyffredin.

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Sad 08 Chw 2014 10:58 am
gan mariamottola
Diolch o galon! Rwyt ti werth y byd i gyd :)

Rwy'n credu naf i ddefnyddio Atebwch erbyn Mehefin y 30ain 2014 os gwelwch yn dda. Ond oes rhaid rhoi atalnod cyn 'os gwelwch yn dda' ac atlanod llawn ar ol? h.y.
'Atebwch erbyn Mehefin y 30ain, os gwelwch yn dda.
17, Heol Gwyn, Trecynon, CF44 8GS'
Sai'n credu bod e'n swno'n rhy bossy, mae rhaid i fi gael ateb! Ond, a dweud y gwir, rwy'n gwbod pwy sy'n dod, felly dim ond 'formality' yw'r gwahoddiad, un drud hefyd!

Rwy'n hoffi 'neithior' ond mae'n siwr bydd pobl yn credu fy mod i moyn gweud neithiwr a fy mod i wedi gwneud rhyw fath o gamgymeriad wrth eisiau eu gwahodd nhw i rywbeth yn y gorffennol! Sai'n gwbod!

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Sad 08 Chw 2014 11:07 am
gan mariamottola
Rwy newydd feddwl, ydy'r 'ar' (ar nos Sadwrn) yn y gwahoddiad ar gyfer y parti yn y nos yn gywir?

Oherwydd, yn y gwahoddiad i'r briodas, does dim 'ar' (ddydd Sadwrn). Oes na rheol wahanol?

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Sad 08 Chw 2014 12:02 pm
gan sian
mariamottola a ddywedodd:Diolch o galon! Rwyt ti werth y byd i gyd :)

Rwy'n credu naf i ddefnyddio Atebwch erbyn Mehefin y 30ain 2014 os gwelwch yn dda. Ond oes rhaid rhoi atalnod cyn 'os gwelwch yn dda' ac atlanod llawn ar ol? h.y.
'Atebwch erbyn Mehefin y 30ain, os gwelwch yn dda.
17, Heol Gwyn, Trecynon, CF44 8GS'
Sai'n credu bod e'n swno'n rhy bossy, mae rhaid i fi gael ateb! Ond, a dweud y gwir, rwy'n gwbod pwy sy'n dod, felly dim ond 'formality' yw'r gwahoddiad, un drud hefyd!

Rwy'n hoffi 'neithior' ond mae'n siwr bydd pobl yn credu fy mod i moyn gweud neithiwr a fy mod i wedi gwneud rhyw fath o gamgymeriad wrth eisiau eu gwahodd nhw i rywbeth yn y gorffennol! Sai'n gwbod!


Rwy'n meddwl mai mater o chwaeth yw'r comma o flaen "os gwelwch yn dda" - treia Googlo "comma before please"!
Run peth - os wyt ti'n defnyddio atalnodau llawn o gwbl, bydd angen atalnod llawn ar ddiwedd y frawddeg honno ond, yn ôl rhyw wefannau etiquette, does dim angen atalondau llawn mewn gwahoddiadau priodas - Googla "wedding invitation punctuation" neu rywbeth!

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Sad 08 Chw 2014 12:05 pm
gan sian
mariamottola a ddywedodd:Rwy newydd feddwl, ydy'r 'ar' (ar nos Sadwrn) yn y gwahoddiad ar gyfer y parti yn y nos yn gywir?

Oherwydd, yn y gwahoddiad i'r briodas, does dim 'ar' (ddydd Sadwrn). Oes na rheol wahanol?


Ti'n iawn. Ro'n i'n meddwl bod "ar nos Sadwrn, Awst y 19eg 2014" yn swnio'n fwy naturiol ond efallai y byddai'n well cael cysondeb.

Beth bynnag - enjoia!

Re: gwahoddiad priodas

PostioPostiwyd: Llun 10 Chw 2014 3:22 pm
gan mariamottola
Diolch! Wedi anfon y testun, gobeithio bydd y gwahoddiadau'n neis!

Rwy'n siwr newn ni fwynhau'r diwrnod ond bydd y chwe mis nesa'n tipyn bach o stress :ofn: !!!