Tudalen 1 o 1

Defnydd berfau - angen gwirfoddolwyr!

PostioPostiwyd: Iau 21 Awst 2014 3:09 pm
gan loraa
Helo bawb!

Dyma'r tro gynta' i mi bostio ar maes-e ond nid y tro gynta’ i mi ymweld o bell ffordd!

Dwi'n astudio ieithyddiaeth yn y brifysgol ac yn edrych yn benodol ar gystrawen y Gymraeg. Ga’ i ofyn yn garedig i chi gwblhau'r holiadur yma i mi? https://limesurvey.humanities.manchester.ac.uk/index.php/556981/

Mae'r holiadur yn un hir, ond allech chi gadw'ch atebion a dod yn ôl ato rywbryd eto, neu ddod i derfyn ar ôl Rhan 1, os ydi'r peth yn mynd yn ddiflas i chi! Dwi'n gobeithio cael 40 cyfrannwr yn ystod y mis nesa 'ma, ond mi fydd yr holiadur yn fyw am flwyddyn.

Gan mai ymchwil am gystrawen a theori ieithyddol yw hyn, mae'r cwestiynau/brawddegau yn rhai rhyfedd iawn ac mi fydd hi'n anodd gweld pam ofynnais i nhw yn y lle gynta’ peidiwch â phoeni, mi fydd eich ymatebion a'ch sylwadau yn ddefnyddiol iawn i mi!