Dyddiadau pwysig i'r Cymry

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan DewiBJones » Maw 28 Hyd 2003 10:20 pm

Dwi'm yn gwybod y dyddiadau sorri, ond os mae rhywun yn gwybod yn well, beth am penblwyddi neu diwrnodau coffau rhai o enwogion Cymru a cynnwys eu blwyddyn geni (a marw)?

e.e.
John Albert Jones (Cynan) (1893-1970(?))
Hedd Wyn (1887-1917)
Dafydd ap Gwilym (1320-1370)
...
R.S.Thomas
David Lloyd George
ayb, ayb

Dewi.
Rhithffurf defnyddiwr
DewiBJones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Iau 22 Awst 2002 4:03 pm
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan nicdafis » Mer 29 Hyd 2003 10:09 am

O'n i'n meddwl am hyn y bore 'ma. A fyddai'n well cadw pethau fel na mewn dyddiadur ar wahan? "Llên Cymru"? Un arall am 'hanes Cymru"?

Jyst meddwl oeddwn i bod 'na berygl o wneud y peth yn rhy "gyfoethog".
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan brenin alltud » Iau 30 Hyd 2003 9:07 am

Dw i'n meddwl y galle fe weithio, Nic. Mi fydde fe'n braf iawn edrych ar ryw ddyddiad a gweld "O, dyna pryd y ganed Wil Ty^ Brics" yn ogystal â gwybod mai dyna'r diwrnod y cerddod Mari Jones i nol ei Beibl neu be bynnag.

Fe ellid rhoi dyfyniad gan y bardd sy'n dweud rhywbeth ysbrydoledig, efallai nid o'u barddoniaeth yn unig. Mae rhyddiaith TH Parry-Wms yn wych... ydi hyn wedi'i wneud o'r blaen, fodd bynnag? Hen bryd os nad ydi e.

Yn siwr bod y Lolfa wedi gwneud rhywbeth tebyg, gyda dyfyniadau gan enwogion. :?:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Cardi Bach » Iau 30 Hyd 2003 9:55 am

brenin alltud a ddywedodd:Dw i'n meddwl y galle fe weithio, Nic. Mi fydde fe'n braf iawn edrych ar ryw ddyddiad a gweld "O, dyna pryd y ganed Wil Ty^ Brics" yn ogystal â gwybod mai dyna'r diwrnod y cerddod Mari Jones i nol ei Beibl neu be bynnag.

Fe ellid rhoi dyfyniad gan y bardd sy'n dweud rhywbeth ysbrydoledig, efallai nid o'u barddoniaeth yn unig. Mae rhyddiaith TH Parry-Wms yn wych... ydi hyn wedi'i wneud o'r blaen, fodd bynnag? Hen bryd os nad ydi e.

Yn siwr bod y Lolfa wedi gwneud rhywbeth tebyg, gyda dyfyniadau gan enwogion. :?:


Nygodd 'Yr Almanac Cymraeg' yn arfer cynnwys pethe o'r fath?
Nyge na beth yw almanac? wy ddim yn gwbod :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Dyddiadau Pwysig

Postiogan Glewlwyd Gafaelfawr » Gwe 07 Tach 2003 3:08 pm

Beth am gofio gwrthrhyfel Llywelyn Bren?
Bu'n rhaid iddo ildio gydag urddas ar y 18fed o Fawrth 1316.
Fe'i dienyddiwyd yn 1318, ond dwi ddim yn gwybod ar ba ddyddiad
Maes-e.com-
Gwefan sy'n lleihau'r gofod
Bydd Cymru'n rhydd yn ei rhod

http://www.storz-bickel.com
Rhithffurf defnyddiwr
Glewlwyd Gafaelfawr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 813
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 3:26 pm
Lleoliad: Caerffili

Postiogan carwyn » Gwe 07 Tach 2003 6:41 pm

nicdafis a ddywedodd:Beth am ddyddiau seintiau Cymreig?


28 o ionawr-diwrnod sant carwyn... :lol:

weeeel, cym on-odd rhaid i rywun neud yn doedd?
os na ddo'n nhw - ddo'n nhw ddim, ac os y do'n mi ddo'n.
carwyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 11:00 pm

Postiogan DewiBJones » Sad 08 Tach 2003 12:13 am

Dwi di cael gael benthyg copi o 'Alamanac y Teulu' a'r 'Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940' sydd a rhywfaint o dyddiadau a manylion enwogion.jiyst rhag ofn bydd y tywydd yn giami penwythnos 'ma.

Ionawr 28 (Almanac y Teulu):
Un dydd yn Ionawr 1856, cyfansoddodd Evan James, Pontypridd eiriau "Hen wlad fy nhadau", ac yn ddiweddarach cyfansoddwyd yr alaw gan James ei fab. Roedd brawd Evan wedi ymfudo i America ac wedi'i wahodd yntau i ymuno ag ef, ond yn y penillion hyn ceisiodd Evan esbonio pam na allai byth adael Cymru. Daeth yn gan boblogaidd yn eisteddfodau'r 1860au a chafodd ei hystyried fel anthem genedlaethol wedi Eisteddfod Bangor 1874. Fersiwn Lydaweg o'r don a'r geiriau yw "Bro Goz ma Zadou", anthem genedlaethol Llydaw.

a Mawrth 18
Yn 1978 trechodd tim rygbi Cymru y Ffrancwyr yng Nghaerdydd 16:7 gyda Phil Bennett yn sgorio dau gais gan sicrhau ail Gamp Lawn ar ben tair Coron Driphlyg mewn tair blynedd.

Gobeithio bydd Tachwedd 8 2003 jiyst mor hanesyddol yn hanes rygbi Cymru (am y rhesymau cywir wrth gwrs)
Rhithffurf defnyddiwr
DewiBJones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Iau 22 Awst 2002 4:03 pm
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan Bethan517 » Sul 04 Ion 2004 12:20 pm

Mehefin 12fed - diwrnod y dywysoges Gwenllian
Bethanxxx
Rhithffurf defnyddiwr
Bethan517
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 84
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 3:58 pm
Lleoliad: Aberdar, JMJ

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 04 Ion 2004 1:07 pm

Falla mod i 'chydig yn ddi-weledigaeth yma ond faswn i'n bersonol yn licio gweld diwrnodau Glyndwr a Llywelyn Ein Llyw Olaf yn cael eu mabwysiadu yn ddyddiau cenedlaethol, i ni gael dysgu rhywfaint am ein gorffenol o chofio'n ôl. A cael pis-yp.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan LMS » Mer 17 Maw 2004 3:25 pm

Cytuno'n llwyr.

Dydym ni fel Cymry ddim yn ymfalchio digon yn ein traddodiadau nac ein hanes.

Mae gennym hanes gwerth ei rhannu, sydd wedi llunio y genedl ydym ni erbyn heddiw. Fe ddylwn fod yn falch o hynny.
'Gwyn eu byd yr oes a'u clyw,
Myfyrwyr Bangor plant i Dduw.'
Rhithffurf defnyddiwr
LMS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 6:43 pm
Lleoliad: Caerfyrddin a Bangor

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 47 gwestai

cron