pogon_szczecin a ddywedodd:O ran ymateb Aran ac Owain dwi wedi dod i'r casgliad taw y rhai sydd yn sgwenu'r Gymraeg y gorau yw'r rhai sy wedi dysgu'r iaith.
dw i'm yn siwr am hynna o gwbl, 'de - mae'r rhan helaeth o Gymry Cymraeg yn medru newid cywair yn llawer iawn mwy llwyddiannus na dysgwyr, ac mewn sefyllfa fel hyn maen nhw'n tueddu i sgwennu'n anffurfiol, gan fod dyna ydy natur y bwrdd. mae dysgwyr yn tueddu i'w gael o'n anodd i sgwennu'n llai ffurfiol, wedi dysgu (gan amlaf) 'iaith safonol'.
mae'n cymryd gwaith caled i sgwennu'n slac...
wrth gwrs, mae 'na elfennau eraill - sustem addysg sydd wedi dibrisio'r Gymraeg (yn enwedig ar ran gramadeg), sydd wedi arwain at lawer o bobl Gymraeg iaith gyntaf sy'n fwy cywir ac yn fwy hyderus eu Saesneg, a/neu yn teimlo bod Saesneg ydy'r iaith priodol ar gyfer unrhywbath swyddogol, fel sydd i'w weld ym mhatrymau llenwi ffurflenni yng Nghymru.
mae'n anhygoel y ffordd bod rhai Cymry wedi cael eu dysgu i feddwl bod nhw ddim yn siarad eu mam-iaith yn dda - wel, anhygoel ac yn dor-calonnus. mae'n wirioneddol yn torri 'nghalon bob tro bod Cymro neu Gymraes yn deud wrtha i 'ew, ond wrth gwrs ti'n siarad Cymraeg llawer gwell na be sy gen i...' a'r iaith yn dal i fod yn rhwybath ail-law i fi, fel 'tae, ac yn fyw a chwbl naturiol yn eu cegau a chalonnau nhw...
sori, dw i ar ben 'ngheffyl. dylwn i fynd allan am dro...