Pam?
i fod yn Gymro...
Sut?
cyrsiau dwys, llyfrau, ffrindiau a styfnigrwydd...
A oedd yn anodd?
dim yn fwy nag unrhyw iaith arall - ar wahân i'r ffaith bod hi'n bellach bron yn amhosib i ddysgwyr y Gymraeg fod mewn sefyllfa lle bod rhaid iddynt siarad Cymraeg... yn wir ystyr y gair 'rhaid', hynny yw.
A ydych yn siarad ieithoedd ar wahan i'r Gymraeg a'r Saesneg?
yndw, ond fuaswn i ddim yn deud bellach fy mod i'n rhugl mewn unrhyw iaith arall. a dw i'n colli brawddeg neu ddwy o'r Saesneg bob wythnos...
A ydych yn dod o gefndir Cymreig?
yndw siwr iawn. mae'n ymddangos weithie bod Cymry iaith gyntaf yn disgwyl i ddysgwyr gan amlaf fod yn estroniaid, megis y cyfaill o Faes-E wnaeth gymryd o'n ganiataol mod i'n gwylio De Affrig yn erbyn Lloegr er mwyn cefnogi fy nghyd-wladwyr...
wrth gwrs, cefnogi'r ABE o'n i...