gan Mogs » Maw 02 Rhag 2003 4:55 am
Ces i fy magu mewn teulu Cymreig iawn, ond di gymraeg yng nghymoedd y de. Os dwi'n meddwl am y peth, Saesneg oedd yr iaith cyntaf i mi ddysgu, er bod fy rhieni wedi anfon fi i ysgol meithrin Cymraeg yn 2 oed. I gymhlethu pethau'n fwy, nath mam dysgu Cymraeg pan on i yn ysgol, felly dwi ddim rili'n ffitio mewn i un o'r categorïau'n hawdd.
Pan dwi'n mynd gytre o'r brifysgol, fel arfer Saesneg yw iaith y cartref, ac mae gen i gywilydd i gyfadde taw saesneg dwi'n siarad gan amlaf gyda'm mrawd a chwaer. falle fod hyn yn esgus gwael, ond siarad saesneg gyda'm mrawd a chwaer sydd yn naturiol i mi, gan taw honno yw'r iaith gyntaf gathon ni ein magu ynddo. Falle fod hyn yn arbennig o wael gan fy mod i'n teimlo mor gryf am ddyfodol yr iaith ayyb? Ond a fyse fe yr un mor od i drio gael brawd a chwaer o deulu hollol Gymraeg i siarad saesneg?
Er hyn, dwi'n siarad Cymraeg yn gynyddol gyda mam, a gyda bach o ymdrech i ddechrau, mae'n fwyfwy naturiol erbyn hyn i siarad cymraeg gyda hi.