Arolwg cefndir ieithyddol trigolion y maes:

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Faint ohonoch wedi dysgu'r Gymraeg?

Cymraeg yw fy mam iaith
53
74%
Ces i addysg Gymraeg yn yr ysgol
4
6%
Dysgais i'r Gymraeg fel oedolyn
15
21%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 72

Arolwg cefndir ieithyddol trigolion y maes:

Postiogan pogon_szczec » Gwe 31 Hyd 2003 9:48 pm

Maes o ddiddordeb:

I siaradwyr iaith gyntaf y Gymraeg a yw'n amlwg pwy sy wedi dysgu'r Gymraeg a phwy sy ddim?

(Dwi'n son am negeseuon ar Faes-e yn unig).

Ac i'r rhai sy wedi/yn dysgu'r Gymraeg .........

Pam?

Sut?

A oedd yn anodd?

A ydych yn siarad ieithoedd ar wahan i'r Gymraeg a'r Saesneg?

A ydych yn dod o gefndir Cymreig?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Blewgast » Gwe 31 Hyd 2003 9:55 pm

wel dwi wedi bod yn siarad iaith y nefoedd ers fy modolaeth yng nghroth cysgodol fy mam!! :lol:

Bydd e'n ddiddorol i weld os oes rhywun wedi dysgu cymraeg bellach yn aelodau o'r maes hwn - gwych!! :P
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan kamikaze_cymru » Gwe 31 Hyd 2003 10:34 pm

nic dafis, dewch ymlaen i'r goleuadau llachar ar y llwyfan.

(ta dwi'n horibli rong da?)
peidiwch bod ofn gofyn y cwestiwn dwl
ymddiheuriadau am y malu awyr

http://kamikaze-cymru.blog-city.com/
Rhithffurf defnyddiwr
kamikaze_cymru
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 471
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 6:18 pm
Lleoliad: Fy ngwely

Postiogan Leusa » Gwe 31 Hyd 2003 11:01 pm

Dwina hefyd yn siarad Cymraeg ers erioed, a dal i stryglo yn arw efo Saesneg llafar yn anffodus! Ma'n syndod genai sylwi weithia ar rhei pobol yn nodi mai dysgwyr ydyn nhw, felly i ateb y cwestiwn:
I siaradwyr iaith gyntaf y Gymraeg a yw'n amlwg pwy sy wedi dysgu'r Gymraeg a phwy sy ddim?

Dim o gwbwl!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Newt Gingrich » Gwe 31 Hyd 2003 11:03 pm

Dwi'n meddwl mod i wedi darllen yn rhywle mae dysgwr wyt ti Pogon.

Yr oll allaf ei ddweud yw fod dy Gymraeg yn rhagorol. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan huwwaters » Gwe 31 Hyd 2003 11:17 pm

Dwi ond yn gallu deud os yw rhywyn wedi dysgu Cymraeg os glywai nhw'n siarad, a tydi hwne ddim o hyd. Yn ysgrifenedig, fedrai ddeud dipyn o pha ardal yr ydych yn dwad, neu fel arall chi'n ysgrifennu'n reit ffurfiol.

Dwi'n dwad o gefndir ble ma addysg yn bwysig yn gyfangwbwl, a felly ieithoedd. Does dim cefndir gwleidyddol/ieithyddol yn fy nheulu, fel i mi siarad Cymraeg achos ma fy rhieni ishio mi gadw'r iaith yn fyw. Roedd tad fy mam yn erbyn addysg nad oedd yn Saesneg! Ac yr oedd ar ei ffordd i fod yn cadeirydd yr NUT ond am ei farwolaeth - am berygl.

Ma dysgu iaith arall y colli'ch agwedd naïfrwydd a thrahaus, gan ddangos i chi fod pobl erill yn gwneud pethe o safbwynt wahanol pop dydd, a tydi pawb ddim yn gweithredu fel chi'ch hun.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Aran » Gwe 31 Hyd 2003 11:19 pm

Pam?

i fod yn Gymro...

Sut?

cyrsiau dwys, llyfrau, ffrindiau a styfnigrwydd...

A oedd yn anodd?

dim yn fwy nag unrhyw iaith arall - ar wahân i'r ffaith bod hi'n bellach bron yn amhosib i ddysgwyr y Gymraeg fod mewn sefyllfa lle bod rhaid iddynt siarad Cymraeg... yn wir ystyr y gair 'rhaid', hynny yw.

A ydych yn siarad ieithoedd ar wahan i'r Gymraeg a'r Saesneg?

yndw, ond fuaswn i ddim yn deud bellach fy mod i'n rhugl mewn unrhyw iaith arall. a dw i'n colli brawddeg neu ddwy o'r Saesneg bob wythnos... :winc:

A ydych yn dod o gefndir Cymreig?

yndw siwr iawn. mae'n ymddangos weithie bod Cymry iaith gyntaf yn disgwyl i ddysgwyr gan amlaf fod yn estroniaid, megis y cyfaill o Faes-E wnaeth gymryd o'n ganiataol mod i'n gwylio De Affrig yn erbyn Lloegr er mwyn cefnogi fy nghyd-wladwyr... :winc:

wrth gwrs, cefnogi'r ABE o'n i... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Owain Llwyd » Sad 01 Tach 2003 12:13 am

Un arall yma sydd wedi dysgu'r Gymraeg fel oedolyn.

Pam?

Achos ar ol profi magwraeth sylfaenol ddi-Gymraeg ar aelwyd Gymreig yn Lloegr, mi o'n i wedi dod i'r casgliad 'mod i'n methu a mynegi fy nghenedligrwydd yn gall drwy'r Saesneg yn unig.

Sut?

Yr hwb mwyaf oedd gwneud Astudiaethau Celtaidd yn y brifysgol. At hynny, dw i wedi bod yn lwcus iawn yn fy ffrindiau a 'nghydnabod. Ac mae amgylchiadau diwylliannol digon difyr wedi helpu'n fawr.

Anodd?

Ar lefel ramadegol dechnegol, do'n i ddim yn ei chael hi mor anodd a hynny, ond, yn ystod y blynyddoedd cynnar, mi oedd fy ymdrechion i ddod i ben efo fy mynegi fy hun yn rhwydd (yn enwedig ar bapur) yn llafurus iawn. Doedd diffyg hyder cymdeithasol ddim yn help garw chwaith.

Ieithoedd eraill?

Ia, ond ddim yn rhyw wych ofnadwy - darllen yn well na siarad.

Cefndir Cymreig?

Ia. Tad o Gerdiff, Mam o blith Cymry Manceinion.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan pogon_szczec » Sad 01 Tach 2003 12:31 am

O ran ymateb Aran ac Owain dwi wedi dod i'r casgliad taw y rhai sydd yn sgwenu'r Gymraeg y gorau yw'r rhai sy wedi dysgu'r iaith.

Fyddwn i byth yn meddwl bod Owain wedi dysgu'r iaith - mae'n swnio fel Cymro dysgiedig iawn - y Parch Llwyd.

A wyt ti'n siarad Cymraeg gartref gyda Missus Lloyd o'r Almaen?

Anhygoel.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan nicdafis » Sad 01 Tach 2003 10:47 am

Pam?

Ces i swydd n siop Oriel Caerdydd, a fi oedd yr unig un na heb Gymraeg.

Sut?

Dechrau ar fy mhen fy hun, gyda llyfrau, wedyn cwrs Wlpan ac ati am flwyddyn a hanner. Wedyn symud i'r Fro, a beidio siarad Saesneg â neb sy'n medru'r Gymraeg. Cael job fel tiwtor (ffordd gorau i wella yw dysgu pobl eraill). Dechreuais i morfablog er mwyn ymarfer fy Nghymraeg ysgrifenedig.

A oedd yn anodd?

O'n i'n lwcus i weithio mewn awyrgylch Cymraeg ac i deimlo oedd <i>rhaid</i> i mi ddysgu. Dyma'r prif reswm (yn fy nhyb i) pam mae cymaint o bobl yn ffaelu dysgu yn dda. Does dim angen cymdeithasol/moesol.

A ydych yn siarad ieithoedd ar wahan i'r Gymraeg a'r Saesneg?

Nadw.

A ydych yn dod o gefndir Cymreig?

Ydw, ond dim Cymraeg yn y teulu ers canrif. Ardal maes glo y gogledd dwyrain. Ces i fy ngeni a magu yn Y Waun, reit ar y ffin.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 46 gwestai

cron