tydio'n od, sut ma acenion pobl yn newid yn dibynnu efo pwy ma nhw'n siarad? dwi'n ddiawledig am ei neud o. a dwi'n sylwi y'm mod i'n i neud e fwy ers i fi gyrredd y maes. achos pan dwi'n ysgrifennu negeseuon fel hon, dwi am ryw reswm yn switcho o acen ogleddol i fwy sowth wêlian.
ma'n digwydd gen i yn yr ysgol fyd, dydw i'm yn siarad ddim byd tebyg yn ysgol ag ydw i adre gyda'n nheulu. ma'n rhieni i yn dod o'r canolbarth, sydd yn rhoi amrywiaeth itha eang o acenion i fi. a dwi'n gwbod bod hyn yn swnio'n wirion, ond dwi'n defnyddio 2 os nad 3 acen wahanol yn y'm mywyd bob dydd. dydy cymraeg fy mrawd a chwaer (iau) ddim cystal a be oedd fy un i pan o'n i i hoedran nhw dwi'n siwr. ma nhw'n llai parod i fentro defnyddio geiriau 'fwy ogleddol'. dwi hefyd yn meddwl fod mam (sydd yn athrawes syplei ysgolion cymraeg yn yr ardal-sydd yn gofyn iddi fod yn ddeheuol neu fydde'r plant ddim yn deall) ddim yn defnyddio gymaint o'u hacen ganolbarthaidd gyda'n seiblings ag oedd hi'n defnyddio pan o'n i'n blant.
ond nôl at y pwynt, oes na rywun arall allan fan 'na hefyd yn defnyddio acenion gwahanol yn dibynnu ar y person arall?
ydych chi'n sticio i'r un acen boed yn siarad a hwntw/gogs neu'n ceisio/trio newid i'w siwtio nhw?