gan Conyn » Mer 05 Tach 2003 11:43 pm
Ie wir. Rwy'n cytuno bod llawer ohonon ni sy'n siarad, neu'n gallu siarad, yn dafodiethol yn siarad mewn sawl ffordd. Anaml rwy'n siarad iaith Cwmtawe mor gryf a gallen i. Gyda 'mod i'n gweithio gydag oedolion o dysgwyr yr iaith o bryd i'w gilydd, rwy'n gorfod ceisio bod yn sensitif i'w galluoedd nhw. A gweud y gwir, fe gododd yr union bwynt 'ma neithiwr gan mod i ar 'best bihefior' ac yn ynganu geiriau'n 'safonol gyda grwp tebyg.
Cofiwch, hyd yn oed pan rwy gyda ffrindiau maen nhw'n tynnu coes ac yn cael peth trafferth wrth i fi ddefnyddio rhai o eiriau fy nhafodiaeth (chi'n gwpod pwy 'ych chi), felly 'sdim pob siaradwr Cymraeg rhugl yn deall pob peth a 'wedir gan bawb i ddechrau. Rwy'n credu bod problem yma oherwydd bod llai a llai o bobl yn siarad yn dafodieithol, felly mae'n anoddach ddod yn gyfarwydd â gwahanol acenion. Dyw pobl jest ddim mor gyfarwydd a chlywed amrywiaeth o acenion a thafodieithoedd felly weithiau mae'n haws newid dy ffordd o siarad rhywfaint oherwydd dy gynulleidfa.
Mae hwn wrth gwt llawer o'r cachu sy'n cael ei siarad am wahaniaethau rhwng iaith a de a iaith y gogledd. Efalle dyw pobl ddim yn cael cyfleon i finiogi clust digon, ond yn fy mhrofiad i mae'r rhan fwya o bobl yn dod i ddeall pobl sydd â gwahanol ffordd o siarad yn bur dda, a hynny'n fuan iawn. Mae'n bryd i ni ymladd yn erbyn yr hen ystrydeb yma, oherwydd mae'n arf arall i'n hollti fel cenedl.
Thenciw.
Tri pheth sy'n anodd 'nabod
Dyn, derwen a diwarnod...