Holiadur ... plis llenwch!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Leusa » Sul 14 Rhag 2003 10:09 pm

Sbecsi a ddywedodd: Dech chi sy'n deud eich bod yn byw yn y de ddwyrain neu'r gogledd ddwyrain ac mai dyma eich prif iaith cyfathrebu bob dydd yn siarad drwych hetiau!

Be os de, bo gynoch chi griw o ffrindia sy'n siarad Cymraeg - ma'n neud sens wedyn bo chi'n siarad Cymraeg yn bennaf yn y Gymdeithas.
Dwi'n siarad tus 98% Cymraeg yn y Gymdeithas [bron yn sicir - dwi yn hollol ymwybodol pan dwi'n siarad saesneg dwi'n neud o mor wael], 'di hynna', yn golygu bod Bala'n gymdeithas 98% o siaradwyd Cymraeg o gwbwl.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 14 Rhag 2003 10:21 pm

Lowri a ddywedodd:Wel, falle bod pawb draw 'sha'r gorllewin falle'n parchu'r iaith yn well!!!!


Hmmmm, Dwi'n ame!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 14 Rhag 2003 10:28 pm

Sorri Leusa nid son amdanat ti ydw i ond y bobl syn deud eu bo nhw'n byw yn y Dwyrain.

Siarad cymraeg fel arfer yn y gymdeithas?

Dyn nhw byth yn mynd i siopau? tafarndai? delio efo'r cyngor? ffonio cwmni yn lloegr? siarad efo teulu sydd ddim yn dallt cymraeg?

Fel dwi'n deud dwi'n siarad Cymraeg efo fy chwaer ac yn defnyddio'r Gymraeg yn gyntaf efo pawb dwi heb cwrdd a nhw or blaen. (dwi'n ame fod llawer o bobl yn neud hyna) a dwi dal yn gorfod siarad Saesneg tua 80% o'r amser!

FFAITH - Nid yw'n bosib siarad cymraeg gan amlaf yn y gymdeithas yn gyffredinol yn y gogledd ddwyrain!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Leusa » Sul 14 Rhag 2003 10:36 pm

'Dwi'n deall na cyfeirio tuag at bobl y dwyrain wyt ti, ond dwi jyst yn gofyn - ti'm yn meddwl bod posib siarad mwy o gymraeg yn y gymdeithad be byddet ti wedi dy amgylchynu gan griw o ffrindia Cymraeg?
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 14 Rhag 2003 10:44 pm

Dwn im. ydi ella ond fedraim meddwl fydde unrhyw un a mwy o ffrindie sy'n Gymru Cymraeg yma na sy'n ddi gymraeg. Os wyt ti'n tynnu dy ffrindie o mond 14% o'r boblogaeth yna ma a rwbeth yn wrong dwi'n meddwl.

Mae ffrindie gwaith fi gyd yn siarad Cymraeg, a hen ffrindie ysgol. Ond mae fy nheulu i gyfd yn siarad saesneg, ma PAWB yn y dre bron yn siarad dim ond saesneg, dwi'n siarad saesneg efo'r ffrindie dwi'n mynd i beldroed hefo nhw yn ogysatal a hefo hanner fy nhim pwl, fy nhim gwyddbwyll i gyd a'r tim darts. Saesneg yw iaith y cynghrair 5 bob ochr dwin chwarae ynddo.

Dwi'n sicr fy mod yn siarad mwy o Gymraeg na rhan fwyaf o bobl yn fy ardal i - a dim ond rhyw 50% om mywyd i gyd sydd drwy gyfrwng y gymraeg. gan gynnwys gwaith, maes e, eisteddfodau, gwersi cymraeg, protestiadau, piss yps yng nghaernafon a blaenau ayb ayb!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan mred » Llun 15 Rhag 2003 4:14 am

Mae hi'n ddibynnol ar y bobol wyt ti'n dewis cymdeithasu â nhw. Yn fy ardal i gallet ddewis bod â chylch o ffrindiau 100% Cymraeg neu 100% Saesneg.

Mae gynna'i fwy o gyfeillion Saesneg, ond drwy hyn (nid fy mod yn fwriadol genhadu) dwi wedi medru dwi'n credu ysgogi rhai i feddwl am ddysgu Cymraeg/gwella eu Cymraeg/bod yn ymwybodol nad ydi'r propaganda gan bobl wrth-Gymraeg am y Cymry yn rednecks ffasgaidd yn wir (sy'n rhoi esgus cyfleus i rai beidio â dysgu'r iaith). Yn ôl rhai hyd yn oed, fi sy'n gyfrifol am Gymraeg erchyll Jim Killock. :winc:

Mi gerddais i o Brestatyn i Langollen cyn dod ar draws neb efo acen Gymreig, heb sôn am fod yn siarad Cymraeg, felly hawdd iawn credu be ti'n ddeud am amhosibilrwydd byw drwy'r Gymraeg yno. Ond eto, o ystyried agweddau Ian Rush/Mike Peters er enghraifft (ond nid Michael Owen!), mae'n ymddangos bod cryn ymwybyddiaeth o Gymreictod mewn rhai ardaloedd sy'n ymddangos yn Seisnig iawn i ni yma fwy i'r gorllewin.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 15 Rhag 2003 12:51 pm

Wel fyddai'n treulio'r rhanfwyaf o'm hamser i'n Gaerdydd rwan, ac heblaw am awr o seminar gwleidyddiaeth yr wythnos (nad ydw i'n mynd i rhanfwyaf o'r amser bethbynnag), dydw i'm yn siarad Saesnaeg. Ydw, dw i mewn fflat Gymraeg yn Senghennydd, ond dw i'n cymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg (nid oherwydd dw i'm isho ffrindiau di-Gymraeg, ond oherwydd ei fod cymaint yn hawdd siarad Cymraeg, ac felly dw i'n dueddol o peidio siarad Saesnaeg). Wrth fynd i pyb neu siop mi ofynnaf i'n Gymraeg yn gyntaf am bethbynnag dwisho a deud 'diolch' yn lle 'thank you' (er weithia dw i'n slipio fyny). Cymdeithas Saesnaeg ei hiaith yw Caerdydd, ond mae'n bosib byw dy fywyd yn Gymraeg os ti'n mynnu gwneud hynny, dim ots lle ti'n byw, dw i'n meddwl.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Lowri » Maw 16 Rhag 2003 1:55 pm

Mae Cwm Gwendraeth yn Gwm lle ma'r iaith Gymraeg yn hanfodol bwysig. Drwy gymorth Menter Cwm Gwendraeth a mudiadau tebyg, y mae'r cwm wedi sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn un o'i chadarnleoedd!!

Sbecs Pelydr X, gei di feddwl beth ti'n moen, ond gallai weud 'tho ti, pe bydde ti'n ymweld a'r cwm hwn, bydde ti'n sicr o glywed yr iaith Gymraeg! Mae'r ardal yn parchu'r iaith yn fawr iawn, ac rydym yn byw mewn cymdeithas Gymraeg ei naws hefyd!! :D :D
Mae'r cariad at y Cwm yn berwi yn fy ngwaed
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 521
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 2:44 pm
Lleoliad: Cwm Gwendraeth

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 16 Rhag 2003 3:50 pm

Sorri - oni'm yn dallt fod Cwm Gwendraeth yn Nwyrain Cymru. Duh!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Geraint » Maw 16 Rhag 2003 4:01 pm

Mi odd e run peth da fi pan o ni'n byw yn y Drenewydd. O ni ond yn siarad Cymraeg da fy nheulu, a rhai ffrindie ysgol. Yn y dre, mynd allan ar y piss ayb, bron byth cyfle i sarad Cymraeg. Hawdd oedd di-galoni. Ai adre dros nadolig, a byddai nol i ond siarad Cymraeg da fy nheulu eto am wythnos.

Rhaid deud yng Nghaerdydd, dwi yn siarad Cymraeg da rhan fwyaf o fy'n ffrindie, dwi wedi ymdrechu i fod rhan o gymdeithas Gymraeg yma, ma na ddigon o fobl o gwmpas.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 42 gwestai

cron