Tudalen 7 o 8

PostioPostiwyd: Mer 05 Mai 2004 3:31 pm
gan LowRob
Cymru a'i Diwylliant

Rydym yn ymchwilio i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng nghymunedau Cymru.
Buasem fel myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ddiolchgar am eich mewnbwn.

1. Beth yw eich cenedligrwydd? Cymraeg

2. Ymhle cawsoch eich geni? Lloegr

3. Ym mha ran o'r wlad ydych chi'n byw?

Canolbarth - oes yna dwll mawr yng nghanol Cymru ta beth?!?!?!?! :crio:

b. Ers pryd? Ers fy ngeni

4. I ba grwp oedran ydych chi'n berthyn?

20-39

5. Ydych chi'n medru siarad yr iaith Gymraeg?
YDW

6. Beth yw eich mamiaith? Cymraeg

7. Pa iaith ydych chi'n ei ddefnyddio amlaf yn y :-
a) cartref? Cymraeg
b)gymdeithas? Saesneg
c)gweithle? Cymraeg

8. Ym mha iaith fyddech chi'n dueddol o :-
a)ddarllen? Cymraeg os oes dewis
b)ysgrifennu? Dibynnu beth

9. Drwy ba iaith gawsoch chi eich addysg? Dwyieithog

10. A ydych chi'n gwylio S4C yn rheolaidd? Nac ydw

11. A ydych chi'n gwrando ar Radio Cymru'n rheolaidd? Nac ydw

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 5:34 pm
gan Treforian
Cymru a'i Diwylliant

Rydym yn ymchwilio i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng nghymunedau Cymru.
Buasem fel myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ddiolchgar am eich mewnbwn.

1. Beth yw eich cenedligrwydd? Cymro

2. Ymhle cawsoch eich geni? Ysbyty Dewi Sant, Bangor. Byw wedyn yn Nhrefor

3. Ym mha ran o'r wlad ydych chi'n byw?


Gogledd / Gog-Ddwyrain / Dwyrain / De-Ddwyrain / De-Orllewin / Gorllewin / Gog-Orllewin

b. Ers pryd?
Erioed

4. I ba grwp oedran ydych chi'n berthyn?

0-19 20-39 40-59 60+


5. Ydych chi'n medru siarad yr iaith Gymraeg?

YDW

6. Beth yw eich mamiaith? Cymraeg, ond Hwntweg yw iaith fy mam.

7. Pa iaith ydych chi'n ei ddefnyddio amlaf yn y :-

a) cartref? cymraeg
b)gymdeithas? cymraeg, taswn i'n cymdeithasu
c)gweithle? ddim yn gweithio, ond cymraeg yn rysgol


8. Ym mha iaith fyddech chi'n dueddol o :-

a)ddarllen? cymraeg 70% saesneg 25% a trio darllan chydig ar eiriadur gwyddeleg
b)ysgrifennu? cymraeg


9. Drwy ba iaith gawsoch chi eich addysg?
Cymraeg, ac yn dasl yno


10. A ydych chi'n gwylio S4C yn rheolaidd? Ydw / Nac ydw



11. A ydych chi'n gwrando ar Radio Cymru'n rheolaidd? Ydw / Nac ydw


Cwestiynau dewisiol (dim rhaid ateb rhain)

12. Yn eich barn chi, ydi parhad yr iaith Gymraeg yn bwysig yn :-


a) y gymdeithas? ydi
a) Genedlaethol? mwy felly yn genedlaethol.

[/b]

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 5:39 pm
gan Macsen
Mae'r presentation oedd yn defnyddio'r ystadegau 'am di bod ryw saith mis yn ol. 'Sdim otch- carwich mlaen.

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 5:52 pm
gan Dr Gwion Larsen
Wan dachin deud, rydych chi i gyd yn îfyl, dyna'r tro dwytha dwin syrthio i "plis" ar y maes!

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 10:56 pm
gan garynysmon
1. Beth yw eich cenedligrwydd? Cymro

2. Ymhle cawsoch eich geni? Bangor (fel pawb arall o Ynys Mon)

3. Ym mha ran o'r wlad ydych chi'n byw? Rwyf wedi byw yn Llanddeusant ar hyd fy oes nes dod i'r coleg ym Mangor. Rwyf nawr yn byw yn y Neuadd breswyl Gymraeg, JMJ.


Gogledd / Gog-Ddwyrain / Dwyrain / De-Ddwyrain / De-Orllewin / Gorllewin / Gog-Orllewin

b. Ers pryd? Llanddeusant - 1984 Bangor - 2002


4. I ba grwp oedran ydych chi'n berthyn?

0-19 20-39 40-59 60+


5. Ydych chi'n medru siarad yr iaith Gymraeg?

YDW

6. Beth yw eich mamiaith? Cymraeg

7. Pa iaith ydych chi'n ei ddefnyddio amlaf yn y :-

a) cartref? Cymraeg (erioed wedi siarad yr un iaith arall gyda fy nheulu)

b)gymdeithas? Cymraeg gyda phawb sy'n medru'r iaith (sef 95% o fy ffrindiau). Ond yn siarad Saesneg os yn siarad yn uniongyrchol gyda rhywyn di-Gymraeg.

c)gweithle? Cymraeg bob amser yn y Coleg gan fy mod yn gwneud fy ngwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, ond Saesneg oedd prif iaith y gweithle roeddwn ynddi dros yr Haf.


8. Ym mha iaith fyddech chi'n dueddol o :-

a)ddarllen? Y ddau
b)ysgrifennu? Cymraeg


9. Drwy ba iaith gawsoch chi eich addysg?

Cymraeg

10. A ydych chi'n gwylio S4C yn rheolaidd? Ydw / Nac ydw



11. A ydych chi'n gwrando ar Radio Cymru'n rheolaidd? Ydw / Nac ydw


Cwestiynau dewisiol (dim rhaid ateb rhain)

12. Yn eich barn chi, ydi parhad yr iaith Gymraeg yn bwysig yn :-


a) y gymdeithas? Yn bendant, gan fod yr amgylched rydym yn tyfu fynny ynddi yn holl-bwysig.

a) Genedlaethol? Hyd yn oed pwysicach oherwydd mae dyfodol yr iaith yn bodoli mewn Cymru gyfan hunan hyderus, ac nid yn unig cadarnleoedd bychain.


14. Os hoffech chi ymheliaethu ar unrhyw agwedd o'r holiadur
hwn,manylwch isod [mae hyn yn cynnwys unrhyw goments ar ddyfodol yr iaith ac, yn benodol, os mai gwarchod cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig obaith i ddiwylliant yng Nghymru]:-

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 11:01 pm
gan Dr Gwion Larsen
Ffocin hell! Garysymon ma Macsen di deud fod o drosodd sori :(

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 1:00 am
gan garynysmon
O ia.....wel, dangos faint dwi'n talu sylw felly dydi. :rolio:

Re: Holiadur ... plis llenwch!

PostioPostiwyd: Sul 11 Gor 2004 10:16 pm
gan Pwyll
1. Cymro

2. Penybont ar Ogwr

3. Caerdydd


Gogledd / Gog-Ddwyrain / Dwyrain / De-Ddwyrain / De-Orllewin / Gorllewin / Gog-Orllewin

b. 2002


4. 20-39


5. Odw

6. Cymraeg

7. Pa iaith ydych chi'n ei ddefnyddio amlaf yn y :-

a) cartref? Cymraeg/Saesneg
b)gymdeithas? Saesneg/Cymraeg
c)gweithle? Saesneg


8. Ym mha iaith fyddech chi'n dueddol o :-

a)ddarllen? Saesneg
b)ysgrifennu? Saesneg


9. Cymraeg



10. A ydych chi'n gwylio S4C yn rheolaidd? Ydw / Nac ydw



11. A ydych chi'n gwrando ar Radio Cymru'n rheolaidd? Ydw / Nac ydw


Cwestiynau dewisiol (dim rhaid ateb rhain)

12. Yn eich barn chi, ydi parhad yr iaith Gymraeg yn bwysig yn :-


a) y gymdeithas? Ydy
a) Genedlaethol? Ydy

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2004 9:15 am
gan Hogyn o Rachub
Duw, bron imi anghofio'r edefyn hwn! Jyst isho diolch i bawb nath ateb i'r holiadur. Gaethon ni 74% am y cyflwyniad yn y pen draw, so cymerawdwywch eich hun am helpu fi basio o leiaf un o'm modiwlau! Ffanciw feri!

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2004 11:50 pm
gan garynysmon
74%? Chwarae teg. Ti'n meddwl fywn i'n cael 10% ohono fo i wella chydig ar fy nganlyniadau ail flwyddyn cyffredinol iawn? 8)