Tudalen 1 o 2

Eisoes wedi blino yn barod

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 1:49 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Yr hyn sydd yn fy nghorddi i yw'r defnydd o 'yn barod' am 'already'. Cyfieithiad llythrennol o'r fersiwn Saesneg yw hyn, tra bod gennym ni air hyfryd yn y Gymraeg sy'n gweddu'r ystyr i'r dim, sef eisoes.

Reit, dyna ni, diwedd y rant. Diolch am ddarllen. (Wel, falle ddim).

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 2:25 pm
gan nicdafis
Euog. Wna i fe byth 'to. :wps:

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 2:38 pm
gan Al Jeek
Yn ôl pob geiriadur dwi di sbio arni, mae yn barod yn iawn. :?

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 2:49 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Al Jeek a ddywedodd:Yn ôl pob geiriadur dwi di sbio arni, mae yn barod yn iawn.


Dim ond achos ei fod yn arfer bellach, a bod neb wir yn meddwl am yr ystyr. Eisoes yw'r ffurf ramadegol gywir.

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:01 pm
gan nicdafis
/ teimlo bach yn llai euog

Pobl sy'n penderfynnu beth sy'n "ramadegol cywir", nid llyfrau ;-)

Ond dw i'n cytuno 'da ti ei bod hi'n well defnyddio ffurfiau mwy Cymraeg, heb fod yn hollol obsesed â'r pwnc.

(Weloch chi beth wnes i yna? ;-))

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:22 pm
gan Jeni Wine
ia, ond ma na le i ddadla bod yn rhaid gadal i iaith ddatblygu yn naturiol, a bod unrhyw beth sy'n datblygu i fod yn rhywbeth y mae nifer o bobl yn ei ddweud, hefyd yn gywir, e.e. ... oce, fedraim meddwl am engreifftia wan hyn, ond da chi'n dallt be sgin i?

Ma iaith fyw yn ddeinamig ac yn newid o hyd - nid peth statig mohoni, ac felly er mwyn sicrhau parhad yr iaith Gymraeg mae'n dra phwysig ei bod yn newid ac nid aros yn ei hunfan. Da chi'n cofio'r purydd iaith JMJ yn 'Cerdd Dafod' yn deud na ddylid defnyddio geiriau fel 'ceg' a 'trwyn' am eu bod yn rhy 'goman'? ('Ffroen' oedd o'n argymell ddylian ni alw 'trwyn'!!) Mi fedra i ddallt pobl yn bod yn amddiffynnol ynglyn â’r iaith a'u bod isio cadw'r iaith yn bur - ac mae hynny'n bwysig, i ryw raddau. Be sy'n bwysig iawn ydi nad ydan ni'n mygu'r iaith ac yn gwrthod gadael iddi ddatblygu ac esblygu fel iaith fyw am y canrifoedd a'r mil blynyddoedd nesaf.

Dim lot i neud efo'r drafodaeth, ond dyna ni...




Gyda llaw, dwi ddim yn annog gramadeg gwael...o gwbl chwaith

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:23 pm
gan Jeni Wine
nicdafis a ddywedodd:Pobl sy'n penderfynu beth sy'n "ramadegol cywir", nid llyfrau ;-)


Diolch - dyna o'n i'n trio'i ddeud ond bo' fi di mynd rownd y byd, braidd :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:36 pm
gan fisyngyrruadre
Ces i fy nghysgu bod 'eisioes' yn 'Cymraeg ysgrifenedig'. Felly, dwi heb ddefnyddio fo mewn sgyrsiau. Ydy hwn yn gywir?

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:57 pm
gan Jeni Wine
fisyngyrruadre a ddywedodd:Ces i fy nghysgu bod 'eisioes' yn 'Cymraeg ysgrifenedig'. Felly, dwi heb ddefnyddio fo mewn sgyrsiau. Ydy hwn yn gywir?


ddim rili, na. dwi'n ei ddefnyddio fo weithia weithia

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 3:58 pm
gan Jeni Wine
fisyngyrruadre a ddywedodd:Ces i fy nghysgu bod 'eisioes' yn 'Cymraeg ysgrifenedig'. Felly, dwi heb ddefnyddio fo mewn sgyrsiau. Ydy hwn yn gywir?


gobeithio nad wyt ti wedi bod yn cysgu wrth y llyw! :winc: