Jeni Wine a ddywedodd:ia, ond ma na le i ddadla bod yn rhaid gadal i iaith ddatblygu yn naturiol, a bod unrhyw beth sy'n datblygu i fod yn rhywbeth y mae nifer o bobl yn ei ddweud, hefyd yn gywir, e.e. ... oce, fedraim meddwl am engreifftia wan hyn, ond da chi'n dallt be sgin i?
Ma iaith fyw yn ddeinamig ac yn newid o hyd - nid peth statig mohoni, ac felly er mwyn sicrhau parhad yr iaith Gymraeg mae'n dra phwysig ei bod yn newid ac nid aros yn ei hunfan. Da chi'n cofio'r purudd iaith JMJ yn 'Cerdd Dafod' yn deud na ddylid defnyddio geiriau fel 'ceg' a 'trwyn' am eu bod yn rhy 'goman'? ('Ffroen' oedd o'n argymell ddylian ni alw 'trwyn'!!) Mi fedra i ddallt pobl yn bod yn amddiffynnol ynglyn â’r iaith a'u bod isio cadw'r iaith yn bur - ac mae hynny'n bwysig, i ryw raddau. Be sy'n bwysig iawn ydi nad ydan ni'n mygu'r iaith ac yn gwrthod gadael iddi ddatblygu ac esblygu fel iaith fyw am y canrifoedd a'r mil blynyddoedd nesaf.
Dim lot i neud efo'r drafodaeth, ond dyna ni...
Gyda llaw, dwi ddim yn annog gramadeg gwael...o gwbl chwaith
Ar y cyfan, wy'n credu mod i'n cyd-fynd a thi, Jeni, ond ble ma rhywun yn tynnu'r llinell cyn fod y Gymrag yn datblygu yn dafodieth orllewinol i Sisneg, er enghraifft?
Pa dafodieth, ac esblygiad ddylai cael eu cymryd fel enghraifft o esblygiad naturiol?
Er enghraifft, pan o'n i'n ysolion Gwyr ac Ystalyfera, byddai brawddege Cymrag yn amlach na pheidio yn cynnwys 50% o Sisneg - a hynny yn gyson. Odi hyn yn esblygiad? A ddylid mabwysiadu'r rhain i'r Gymraeg?
Mae'n itha diddorol, achos yn y bon ma rhywun yn gweld le ma'r purwyr (?)/puryddion iaith yn dod o hefyd.
Beth bynnag, Gwahanglwyf, Ishws yw'r gair yn ochre Synod Inn!