Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 4:01 pm
gan Cardi Bach
Jeni Wine a ddywedodd:ia, ond ma na le i ddadla bod yn rhaid gadal i iaith ddatblygu yn naturiol, a bod unrhyw beth sy'n datblygu i fod yn rhywbeth y mae nifer o bobl yn ei ddweud, hefyd yn gywir, e.e. ... oce, fedraim meddwl am engreifftia wan hyn, ond da chi'n dallt be sgin i?

Ma iaith fyw yn ddeinamig ac yn newid o hyd - nid peth statig mohoni, ac felly er mwyn sicrhau parhad yr iaith Gymraeg mae'n dra phwysig ei bod yn newid ac nid aros yn ei hunfan. Da chi'n cofio'r purudd iaith JMJ yn 'Cerdd Dafod' yn deud na ddylid defnyddio geiriau fel 'ceg' a 'trwyn' am eu bod yn rhy 'goman'? ('Ffroen' oedd o'n argymell ddylian ni alw 'trwyn'!!) Mi fedra i ddallt pobl yn bod yn amddiffynnol ynglyn â’r iaith a'u bod isio cadw'r iaith yn bur - ac mae hynny'n bwysig, i ryw raddau. Be sy'n bwysig iawn ydi nad ydan ni'n mygu'r iaith ac yn gwrthod gadael iddi ddatblygu ac esblygu fel iaith fyw am y canrifoedd a'r mil blynyddoedd nesaf.

Dim lot i neud efo'r drafodaeth, ond dyna ni...




Gyda llaw, dwi ddim yn annog gramadeg gwael...o gwbl chwaith


Ar y cyfan, wy'n credu mod i'n cyd-fynd a thi, Jeni, ond ble ma rhywun yn tynnu'r llinell cyn fod y Gymrag yn datblygu yn dafodieth orllewinol i Sisneg, er enghraifft?

Pa dafodieth, ac esblygiad ddylai cael eu cymryd fel enghraifft o esblygiad naturiol?

Er enghraifft, pan o'n i'n ysolion Gwyr ac Ystalyfera, byddai brawddege Cymrag yn amlach na pheidio yn cynnwys 50% o Sisneg - a hynny yn gyson. Odi hyn yn esblygiad? A ddylid mabwysiadu'r rhain i'r Gymraeg?

Mae'n itha diddorol, achos yn y bon ma rhywun yn gweld le ma'r purwyr (?)/puryddion iaith yn dod o hefyd.

Beth bynnag, Gwahanglwyf, Ishws yw'r gair yn ochre Synod Inn! :D

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 4:21 pm
gan fisyngyrruadre
"Gobeithio nad wyt ti wedi bod yn cysgu wrth y llyw!"

Dosbarthiadau nos, ar ol 'ieuenctid cam-waredig' (oof!) yn 'Mold Alun School' (Ffordd Wrecsam, Sir y Fflint tywyllaf). Dysgu, cysgu, beth yw'r gwahaniaeth? :lol:

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 4:38 pm
gan Jeni Wine
Cardi Bach a ddywedodd:Ar y cyfan, wy'n credu mod i'n cyd-fynd a thi, Jeni, ond ble ma rhywun yn tynnu'r llinell cyn fod y Gymrag yn datblygu yn dafodieth orllewinol i Sisneg, er enghraifft?


Ia, dwi'n gwbod, mae'n job dydi? Ma na lot o eiria da ni'n eu hystyried yn Gymraeg wedi datblygu o'r Saesneg - 'cusan', 'staer'... felly lle ma tynnu'r llinall? Balans di bob dim am wn i...

Cardi Bach a ddywedodd:Pa dafodieth, ac esblygiad ddylai cael eu cymryd fel enghraifft o esblygiad naturiol?

Er enghraifft, pan o'n i'n ysolion Gwyr ac Ystalyfera, byddai brawddege Cymrag yn amlach na pheidio yn cynnwys 50% o Sisneg - a hynny yn gyson. Odi hyn yn esblygiad? A ddylid mabwysiadu'r rhain i'r Gymraeg?


Dwi yn meddwl y dylia ni drio gochel rhag defnyddio gormodedd o eiriau Saesneg yn yr iaith. Mae'r Gymraeg mor gyfoethog - mi fydda i'n meddwl mai dim ond defnyddio gair fatha 'eog' unwaith neu ddwy sydd isio, a buan iawn y daw o'n ail-natur.

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 11:20 am
gan Chris Castle
Roedd neges "obsesive" Nic yn dangos beth sy'n naturiol a beth sy'n ddim, 'swn i awgrymu.

Obsesedig yw'r "gair gymraeg :winc: " am obsessed
ond "gwirioni arno" neu "bod yn llawn o'r peth" yw priod dulliau ( neu idiomau - "gair Gymraeg" arall am y syniad.

Er dylen ni defnyddio'r priod dulliau lliwgar "go-iawn" dwi ddim yn gweld problem defnyddio gair Saesneg yn hytrach na gair "ffug" Gymraeg aeth o Saesneg.

Llinell i beidio croesi ydy'r fath o eiriau dwi'n clywed oddi wrth fy mab sydd yn ysgol uwchgradd erbyn hyn (nerli rôto nawr :winc: ).
Geiriau megis sendo yn lle anfon - er ei fod e'n deall acyn defnydio anfon.
Mae'n bosib amddiffyn y fath "iaith anerbynniol" fel SLANG DROS DRO ond fel dwedodd y Cardi mae rhaid sicrhau ein bod ni'n gallu defnyddio iaith fwy "safonol". Ond rhaid inni ddeall y rhesymau cymhleth dros y newidiadau hyn. -