Tudalen 1 o 2

sawl l?

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 11:01 pm
gan carwyn
fela mai a ddywedodd:siop llyfrau leol


fela mai a ddywedodd:siop llyfrau lleol*


sori fela mai, ond nes i jyst sylwi ar hwn mewn thingy majig arall, a o'n i jyst yn meddwl os ydy 'siop lyfrau leol' yn iawn fyd?

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 12:01 am
gan Blewgast
Siop lyfrau lleol yw'r garamadeg cywir dwi'n meddwl. :lol:

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 12:10 am
gan Leusa
dydi ansoddair mond yn treiglo ar ol enw benywaidd dwi'n meddwl, felly gan bod llyfrau yn air gwrywaidd, lleol sy'n gywir.

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 9:28 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Siop lyfrau leol. Nid y llyfrau sydd yn lleol, felly rhaid treiglo, gan mai cyfeirio at y siop y mae'r gair.

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 10:40 am
gan Gwen
Cytuno efo'r Gwahanglwyf. Y siop sy'n lleol.

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 11:06 am
gan Cardi Bach
Ond mae'n swno'n blydi od.
Nagyw treiglad fod wedi datblygu i fod yn gyfforddus ar y glust?
Siop lyfre lleol sy'n swno'n iawn...i fi beth bynnag :wps:

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 11:31 am
gan fela mae
dwi'n hynod o falch gweld nad oes neb yn glir iawn beth yw e. Ron in teimlo cywilydd pan nes i sgwennu fo - nad on in gwbod os odd angen treiglo ne beidio. Dwi fel arfer yn dda am dreiglo ! a dylswn i fod yn gwbod e beth bynnag gan bod dad yn rep llyfrau ! Anyway beth sydd yn iawn os rhywyn yn bendant yn gwbod ??

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 11:53 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Siop llyfrau lleol = siop sy'n gwerthu llyfrau lleol.
Siop lyfrau leol = siop lyfrau sydd yn yr ardal leol

Siop lyfrau lleol = ang-ffycin-hywir
Siop llyfrau leol = " "

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 12:32 pm
gan fela mae
wehey - mi ron in iawn felly pan wenes i gywiro fy hun !! Da wan. Seren aur i fi :D

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 2:47 pm
gan Mr Gasyth
Cytuno efo Gwhanglwyf.
Ansoddair ydi 'llyfrau' yn y frawddeg 'siop lyfrau leol' ond enw ydi o yn 'siop llyfrau lleol', a felly'r gwahaniaeth dwi'n meddwl.