Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 3:05 pm
gan Leusa
O reit.
Ti'n siwr bod o bwys ar be ma'r lleol yn cyfeirio tuag ato? Dim trefn y geiriau sy'n bwysig yn y frawddeg ella?

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 3:21 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Leusa a ddywedodd:O reit.
Ti'n siwr bod o bwys ar be ma'r lleol yn cyfeirio tuag ato? Dim trefn y geiriau sy'n bwysig yn y frawddeg ella?


Bydde ti ddim wir yn gweud 'Siop leol lyfrau' neu 'siop lleol llyfrau', fyddet ti?

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 4:28 pm
gan Cardi Bach
Ha ha, ta beth, nagyw'r cwestiwn reit ar y dechre yn rong beth bynnag?! hm? HM?
Dim 'Sawl l' ddyle fe fod on 'Ai L neu Ll', achod dos dim un 'l' mewn 'll' ond yn hytrach un 'll' sydd mewn 'll' - ma 'll' yn lythyren ar ei phen ei hunan fel 'ch', 'dd', 'ff', 'ng', 'ph', 'rh', a 'th'.

Er bod nhw'n cal eu sgwennu mewn sgrifen Lladinedd, llythyrene Celtaidd y'n nhw, sydd ddim yn bodoli yn yr ieithoedd Lladinaidd, ac felly yn gorfod dibynnu ar ddyblu llythyren lladinedd i greu llythyren newydd ysgrifenedig geltaidd.

Ma sgwrs arall fan hyn, ac mi na i ddechre fe mewn edefyn arall :D

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 12:12 pm
gan brenin alltud
Nag o's, do's dim sgwrs arall fan hyn. Mae pob cymro'n gwybod bod ll a th a ph a rh a ch yn llythrenne ar wahan, er mwyn duw.

Ac mi fydde fe'n ffwc o sgwrs ddiflas, fyd. Sori, ond cym on.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 12:41 pm
gan Gruff Goch
Aha, ond be am 'si'? Dydi hi ddim yn cyfrif fel llythyren, ond nid 's' wedyn 'i' mohonni (oni bai dy fod di'n un o or-ynganwyr S4C). Alla i ddim diodda' pobl sy'n deud 'dwi'n mynd i s-i-opa yn ts-i-enia a s-i-apan' etc. :x

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 2:26 pm
gan Cardi Bach
brenin alltud a ddywedodd:Nag o's, do's dim sgwrs arall fan hyn. Mae pob cymro'n gwybod bod ll a th a ph a rh a ch yn llythrenne ar wahan, er mwyn duw.

Ac mi fydde fe'n ffwc o sgwrs ddiflas, fyd. Sori, ond cym on.


Ond ma e yn digwydd. Sdim pwynt gwadu'r peth. Ma pobol jest ddim yn deall mai llythyren ar ei phen ei hun yw 'll' er enghrefft, ond yn hytrach yn dadlau mai dwbwl 'l' yw e. Felly dos dim pob Cymro yn gwbod, yn sicr dim lot fowr o nghyfarwydd i o Fangor lawr i Abertawe. Ta beth, o'n i'n meddwl y bydde fe'n esgor ar drafodeth am addasu'r wyddor Gymrag.

O wel.

Ar bwynt Gruff, mae'n atgoffa fi o'r 'Si' yn Siwan.
Yr ynganiad gwreiddiol o 'Siwan' oed 'Shiwan'(Cymreigio'r enw Ffrangeg), ond gan nad yw'r lythyren 'Sh' yn bodoli yn y wyddor Gymrag, gath hi ei chynrychioli fel 'S', wedi'r cwbwl, pwynt ysgrifen yw cyfleu syniad. Ond mae'n debyg mai Saunders ai boblogeiddiodd fel y 'Siwan' (Es-I-W-A-N) sydd mor gyfarwydd heddi.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 2:45 pm
gan Gruff Goch
Ie, ond Cardi, 'si' yn Gymraeg ydi'r un sw^n a 'sh' yn Saesneg, felly dyle ti ynganu Siwan fel Shiwan, ond ma' pobl wedi dechrau ynganu'r 's' a'r 'i' fel dau sain ar wahân gan eu bod nhw'n anghyfarwydd â si=sh.

Dwi'n meddwl...

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 2:51 pm
gan Cardi Bach
Gruff Goch a ddywedodd:Ie, ond Cardi, 'si' yn Gymraeg ydi'r un sw^n a 'sh' yn Saesneg, felly dyle ti ynganu Siwan fel Shiwan, ond ma' pobl wedi dechrau ynganu'r 's' a'r 'i' fel dau sain ar wahân gan eu bod nhw'n anghyfarwydd â si=sh.

Dwi'n meddwl...


iyp. a hefyd si=shi yn achos Siwan.

fi'n meddwl... :?

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 3:17 pm
gan Leusa
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Leusa a ddywedodd:O reit.
Ti'n siwr bod o bwys ar be ma'r lleol yn cyfeirio tuag ato? Dim trefn y geiriau sy'n bwysig yn y frawddeg ella?


Bydde ti ddim wir yn gweud 'Siop leol lyfrau' neu 'siop lleol llyfrau', fyddet ti?
:? Nes i'm deud hynna naddo! Son am roi hyder i blant ysgol gyda'i cymraeg ysgrifennedig :( !!