Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 5:19 pm
gan brenin alltud
Be...? O, Jeni Fach, so ti'n gwbod... :rolio:


Colm. Ma isie i ti gywiro dy neges Wyddeleg ar y gwaelod, mae rhywun, Y Gwyddel falle, wedi dy gywiro unwaith. Rhaid ti chwilio am ei neges e rywle...

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 11:20 am
gan Colm
Diolch Alltud. Hwyrach y dylset ti ganolbwyntio mwy ar safon dy Welsh yn hytrach na beirniadu ' dechreuwyr' diniwed y maes.
O ble mae'r fath acen gryf yn hanu? Aberystwyth? :D

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 11:50 am
gan brenin alltud
Pryd nes i feirniadu safon 'dechreuwyr' y maes, hyh?

A pha wallau nes i neud fan hyn, de? ww, jiw jiw...

... ac odi, mae'n acen i'n gymysg iawn diolch yn fawr iti. Penweddig yw'r bai'n bennaf, ond dyw tad o Eifionydd a byw da gogs erioed ddim wedi bod yn help x

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 9:29 pm
gan Bethan517
Mae'r 'n' yn dyblu os yw'r acen ar y goben, hynny yw, y sill olaf ond un mewn gair.

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 11:34 pm
gan gronw
ond fel ma brenin alltud yn ddangos, dyw pethe ddim mor syml... :?
a ddywedodd:penderfynu nid penderfynnu
penderfyniad nid penderfynniad
personol nid personnol
proffesiynol nid proffesiynnol

a wedyn mae gen ti annhebygol ac ati, sy'n bell iawn o'r goben!

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2004 9:18 am
gan cymro1170
tra da ni wrthi, beth am gael gwared o dd a ll

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2004 10:35 am
gan Geraint
cymro1170 a ddywedodd:tra da ni wrthi, beth am gael gwared o dd a ll


A defnyddio symbol un llythyren yn eu lle, fel rhoi sgwigl i goes y d neu rhywbeth.