Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 1:30 pm
gan løvgreen
O, :) :wps: diolch, y Brenin Alltud, pwy bynnag wyt ti!

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 1:53 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
brenin alltud a ddywedodd:'Nabod Tim Saunders unrhyw un?


Nag ydw, diolch byth!

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:33 pm
gan Blewgast
Wel, diolch i chi gyd am y tips!! :lol:

Rwyt ti , Brenin Alltud, yn swnio fel dy fod tn gwbod dy stwff!! :P

Ma fe'n rili anodd i gyfieithu heb eiriadur nagyw e....dwi wastad yn pori yn y geiriadur pan dwi'n neud gwaith cartref ar gyfieithu - ond bydda i ar goll yn yr arholiad!! :?

Dwi'n gwbod i beidio neud y pethe amlwg fel cyfieithu o'r Saesneg, ac ma'n ramadeg i'n dda, ond dwi wastad yn mynd yn blanc pan dwi'n trio meddwl am air cymraeg sy'n berthnasol :? O wel.....

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 10:47 am
gan brenin alltud
Llinos Dafydd a ddywedodd:Wel, diolch i chi gyd am y tips!! :lol:

Rwyt ti , Brenin Alltud, yn swnio fel dy fod tn gwbod dy stwff!! :P

.....


Dyw 'swnio' ddim r'un peth ag 'yn gwybod'!! :winc:
Na, dyna fu ngwaith i am 6 mlynedd rol gadael coleg, fel cynifer o rai eraill nawr. Wedi gweld y maes cyfieithu yn datblygu ac yn deall yr anhawsterau/cymlethdodau/triciau bron i gyd bellach!

Ac yn cyfieithu ar y pryd... rhowch gynnig ar hwnnw os gewch chi gyfle byth! Mae'n brofiad brawychus dros ben tan i chi allu neud joban dda ohoni ac fe gewch chi foddhad enfawr pan mae'n llifo a da chi'n gallu gwella'r hyn mae'r Cymry sy'n siarad yn 'i ddweud ar brydie 8)

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 9:21 pm
gan Rhys Llwyd
Chris Castle a ddywedodd:Gwneud fersiwn Cymraeg yn hytrach na thrio cyfieithu'n llythrennol. Dyna beth dwi'n gwneud.


yn anffodus ma rhaid ti fod yn oflaus wrth wneud hyn oherwydd fod tin colli marciau os wyt tin newid ormod or saesneg