Tudalen 1 o 1

Treulio amser ar y Maes heb orfod gwario arian

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 11:31 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
H.y. Dy'ch chi ddim yn gwario amser (spend time). Chi'n treulio amser, ond yn gwario arian.

Diolch

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 11:38 am
gan Macsen
Ond dw i'n gorfod talu am y broadband, felly dwi yn gwario amser, ac yn treulio arian. :?:

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 12:04 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mwahaha! Sai'n gorfod gwario'r un ddime goch! :crechwen:

Re: Treulio amser ar y Maes heb orfod gwario arian

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 12:27 pm
gan cythralski
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:H.y. Dy'ch chi ddim yn gwario amser (spend time). Chi'n treulio amser, ond yn gwario arian.

Diolch


Ti erioed di meddwl cael slot ar Radio Cymru?

Re: Treulio amser ar y Maes heb orfod gwario arian

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 12:37 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
cythralski a ddywedodd:Ti erioed di meddwl cael slot ar Radio Cymru?


:lol: Rwyt ddoniol, Mr Cythralski.

Ond noder, seiat Gloywi Iaith yw hon. Datgelu fy mherlau yr wyf (paid cymryd hwnna'r ffordd anghywir), gan obeithio nad moch sydd ar y Maes. :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 2:01 pm
gan cythralski
Mae na fwy nac un mochyn yma yn anffodus.... :winc: