Tudalen 1 o 1

pleidleisio

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 3:16 pm
gan pogon_szczec
Falle mod i'n rong ond o'n i'n meddwl taw ..........

pleidleisio dros nid pleidleisio i sy'n gywir.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 3:43 pm
gan Macsen
Dwi'n credy dy fod ti'n gywir yn yr achos yma.

Dw i yn pledleisio dros Blaid Cymru, nid pledleisio i'r Toriaid.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 3:47 pm
gan Hogyn o Rachub
Faswn i'n dueddol o ddweud DROS Blaid Cymru neu Llafur, ond I'R Toriaid neu'r Democratiaid Rhyddyfrydol.

(dwi'n rong tydw?)

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 12:23 pm
gan Cwlcymro
Cwestiwn da! Nesi rioed feddwl am y peth. Dwi'n siwr ma 'dros' sy'n iawn hefyd, ond ma shwr ma 'i' dwi'n ddeud!

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 6:42 pm
gan Osian Rhys
dwi ddim yn hollol sicr, ond dwi'n credu mai pleidleisio dros blaid ydech chi, ac i unigolyn. e.e. "dwi'n pleidleisio dros y blaid lafur" (dwi ddim!!), ond "dwi'n pleidleisio i dafydd wigley". dwi'n credu. :?

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:35 pm
gan Blewgast
dwi ddim yn hollol sicr, ond dwi'n credu mai pleidleisio dros blaid ydech chi, ac i unigolyn. e.e. "dwi'n pleidleisio dros y blaid lafur" (dwi ddim!!), ond "dwi'n pleidleisio i dafydd wigley". dwi'n credu.


Cytunaf!! :lol:

PostioPostiwyd: Sul 16 Tach 2003 2:00 am
gan sbwriel
cytunaf hefyd -- ma'r osian na'n iawn bob tro!!

PostioPostiwyd: Maw 18 Tach 2003 9:08 am
gan Chris Castle
Dwi'n pleidleisio dros Plaid Lafur. Dwi'n pleidleisio i wella Cymru :crechwen:

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2003 8:14 pm
gan branwen llewellyn
pleidleisio dros sefydliad (h.y. unrhyw blaid dan hael - dros y blaid lafur, dros y blaid doriaidd)
pleidleisio i uniogolion (e.e. dwi'n pleidleisio i Elfyn LLwyd) (tydw i ddim gyda llaw!!)