Tudalen 1 o 1
things ddat gow bymp in ddy nait
Postiwyd:
Maw 11 Tach 2003 10:25 am
gan sbidirddyn
Cyfle i chi ddisgleirio! Dwi'n chwilio am fersiwn Gymraeg o'r frawddeg Things that go bump in the night. Unrhyw awgrymiade?
Postiwyd:
Maw 11 Tach 2003 10:32 am
gan brenin alltud
Ym mha gyd-destun? Hynny yw, ar gyfer be' mae e - rhywbeth marchnata/hysbysebu; rhyw ddarn disgrifadol; be' sy'n dod o'i flaen ac ar 'i ol ayb...
Mae'n haws chwilio am ddihareb/dywediad addas os ti'n rhoi esboniad byr yn dweud pam wyt ti isie fe.
Postiwyd:
Maw 11 Tach 2003 11:07 am
gan sbidirddyn
Ma jyst angen dywediad 'hunan-gynhaliol' sy'n creu'r un darlun รข'r frawddeg yn saesneg - sbwci, iasoer, brawychus aayb, fel pennawd ar gyfer darn byr disgrifiadol wedi ei anelu at blant 12oed.
Postiwyd:
Maw 11 Tach 2003 11:18 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Aflonyddwch yng ngolau'r lloer?
Postiwyd:
Maw 11 Tach 2003 11:10 pm
gan Leusa
y brigau anweledig sy'n crafu'r ffenest
Postiwyd:
Maw 11 Tach 2003 11:44 pm
gan Al Jeek
Gan ddefnyddio fy holl sgiliau tgau cymraeg:
Petha sbwci.
Postiwyd:
Mer 12 Tach 2003 9:31 am
gan brenin alltud
Dwndwr yn y nos ?
Mae'n anodd heb wybod be' sy' yn y darn...! Be' sa'n dda sa ti'n cael rhywun sy'n feistr ar gynganeddu i neud llinell o gynghanedd... ydi Ifan Prys yn darllen maes-e?!
Postiwyd:
Mer 12 Tach 2003 10:50 pm
gan Leusa
yndi weithia amwn i. ellai gogio cynganeddu, ond ma dal yn job
!