Tudalen 1 o 1

Cyfres am dafodiaithau ayyb ar Radio Cymru

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 12:12 pm
gan Rhys
Cyfres o'r enw'r Hen ffordd Gymreig o fyw ar nosweithiau Mercher rhwng 6 a 6:30.

Cyfle i glwyed recordiau o Gasgliad sain Amgueddfae Werin Sain Ffagan

Ar raglen neithiwr:
Person o ardal glofaol gogledd ddwyrain (Wrecsam a'r Parlwr Du)
Ffermwr o Uwchaled
Dwy chwaer oedd wedi dyfeisio iaith eu hunain
A rhyw nytar o Lanymstundwy (?) oedd yn dweud bod hi'n dallt brain yn sgwrsio :ofn:

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 12:38 pm
gan Geraint
Clywes i'r rhaglen cwpl o wythnosau yn ol. Roedd yna foi yn pregethu arno, dyn o Abergwaun, mewn ffordd anhygoel, fel pregethwr gospel yn de UDA fatho beth, mi aeth ias lawr fy nghefn yn gwrando ar y pregeth, dim am y cynnwys, ond am y ffordd mi oedd yn defnyddio ei lais, yn gweiddi, bron yn canu, araith danbaid ac angerddol. Os bydde pregethwyr heddiw ddim mor sych a ddiflas, ni fyddai'r capeli mor wag! Ond mae'n neud i fi feddwl fod y capeli yn y ganrif dwetha gyda fwy o gymharaiaeth gyda addoli mwy tanbaid gospelaidd nac yr addoli di-asgwrn sydd heddiw.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 8:24 pm
gan SbecsPeledrX
Oes modd gwrando arno eto fel efo sianeli eraill y BBC?

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 12:41 pm
gan Geraint
Odd en diddorol iawn neithiwr clywed menyw o Ddowlais top, Merthyr yn siarad. Mi oedd yr e canolbarth, e.e. gwlen am glwan, yn glir iawn.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Mai 2004 9:02 pm
gan Gwyddno
Geraint a ddywedodd:Odd en diddorol iawn neithiwr clywed menyw o Ddowlais top, Merthyr yn siarad. Mi oedd yr e canolbarth, e.e. gwlen am glwan, yn glir iawn.

'e' y Wenwyseg (sef, yn fras, acen y de-ddwyrain) yw hwnna, dyw e' ddim cweit yr un peth ag 'e' y Canolbarth, tipyn bach llai agored, rwy'n meddwl. Mae Peter Wyn Thomas yn ymdrin â hwn yn Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg (rwy'n meddwl 'mod i wedi sillafu'r teitl yn gywir ond i chi sy'n fyfyrwyr bydd y llyfr yn llyfrgelloedd eich colegau ac i bawb arall mae'n bosib ei fod e'n dal yn eich llyfrgell gyhoeddus), lle mae'n trafod nifer o dafodieithoedd.

O'dd, ro'dd yr hen ffordd Gymreig o fyw yn gyfres dda iawn, wnes i fwynhau pob un o'r rhaglenni glywais i.

I bawb sydd â diddordeb a heb glywed, mae Mewn Gair, sef rhaglen y Prifsgwarnog a Hywel Wyn Owen yn dod 'nol am bedwaredd cyfres cyn bo hir, cadwch lygad yn agored am fanylion (a rhowch wybod i fi os na fydda'i wedi'u postio nhw, plîs!).