Dwi'm yn rhy siwr ond roeddwn i'n meddwl bod y 'puryddion' yn dweud mai 'yn y Gymraeg' sy'n gywir ond ei bod hi wedi mynd yn dderbyniol hepgor yr 'y' rwan - 'yn Gymraeg' mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud.
O ran 'mewn Cymraeg' - ydio ddim yr un gwahaniaeth a 'mi brynais y got yn y dre' a 'mi brynais y got mewn tre'? E.e. 'Mae'r gerdd wedi ei hysgrifennu mewn Cymraeg graenus' = Cymraeg (graenus) yw iaith y gerdd tra byddai 'wedi ei hysgrifennu yn Gymraeg' = Cymraeg oedd iaith y
broses o ysgrifennu. (fedrch chi ddim rhoi ansoddair ar ol y Gymraeg yn yr achos yma chwaith). Ym, na di hyn ddim yn gwneud sens nac ydi?
fydd rhaid imi ddod nol at hwnna ... dwi'n dechre ffwndro
Ond o ran 'dwi'n Gymraeg' - na, na, na, na! Hollol anghywir ac un o fy 'pet hates' (ond mae lot fawr iawn o bobl yn ei wneud o!). Fedr person ddim bod yn iaith. Mae gen i gydweithiwr sy'n gofyn 'Cymraeg dach chi?' ar ddechrau pob sgwrs ffon er mwyn gweld allith hi barhau efo'r sgwrs yn Gymraeg. Dwi wastad yn dychmygu'r person ar ben arall y lein yn dweud 'Ym, na, nid un o ieithoedd lleiafrifol hyna'r byd ydw i ond person, sut allai'ch helpu chi'