Tudalen 1 o 1

Amser gorffennol y berf bod.

PostioPostiwyd: Sul 16 Tach 2003 1:17 pm
gan pogon_szczec
Dwi wedi gofyn nifer o weithiau yn ofer am esboniad dealladwy.

Beth yn gwmws yw'r wahanieth rhwng ..........

'Roeddwn i yn Aberystwyth' a

'Bues i yn Aberystwyth'?

Re: Amser gorffennol y berf bod.

PostioPostiwyd: Sul 16 Tach 2003 5:50 pm
gan brenin alltud
pogon_szczecin a ddywedodd:Dwi wedi gofyn nifer o weithiau yn ofer am esboniad dealladwy.

Beth yn gwmws yw'r wahanieth rhwng ..........

'Roeddwn i yn Aberystwyth' a

'Bues i yn Aberystwyth'?



Dim ond unwaith y 'bues' ti'n aber, ond drwy ddweud 'roeddwn i' alle ti fod wedi bod na am flynyddoedd, ym, amser amherffaith (imperfect) yw roeddwn i e.e. pan o'n i'n ifanc, roeddwn i'n mynd i ysgol llanbethbynnag... ond 'bues i'n ysgol llanbb unwaith i gwrdd a'r brifathrawes'.

Sori, fawr o esboniad, ond mae'n ddydd sul ar bnawn glawog ym' mhenmaenmawr (y stad meddyliol, nid y pentre')