Tudalen 1 o 2

Ysgoloriaethau - yffach gols!

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2003 11:57 pm
gan Blewgast
Oes 'na rywun eisoes wedi gneud ysgoloriaeth i'r pwnc Cymraeg i rhyw brifysgol - dwi wedi derbyn cyn bapurau achos dwi'n bwriadu sefyll arholiad fy hun ym Mis Ionawr......ond jiw ma'r darnau ieithyddol yn anodd (y cyfieithu a chywiro darnau gwallus!!)

Unrhyw dips da rhywun?? :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 10:27 am
gan brenin alltud
do. ma'n dodl :winc: :winc: :winc:

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 12:57 pm
gan Cymrocwl
Ai i Brifysgol Aber wyt ti´n ymgeisio?? Os wyt ti, fel rhywun a oedd yn gorfod astudio Gloywi Iaith llynedd, gwna i dy rybuddio di nawr bod rhai o´r camgymeriadau´n well hawdd i´w hegluro tra bod eraill yn lletchwith uffernol! Gwna´n siwr dy fod ti´n gwybod y rheolau treiglo a dyblu llythrennau ayyb..... Gwnes i sefyll y papur ysgoloriaeth hefyd ac wi´n cofio panicio wrth weld y "gwallau iaith" ond mewn gwirionedd, y cyfan sydd angen ei wneud yw cymryd dy amser wrth eu cywiro nhw a meddwl am pam eu bod nhw´n anghywir yn y lle cyntaf. Yn anffodus, mae´n rhaid dysgu´r rheolau ac os wyt ti fel fi, mae hynny´n ddiflas!!

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 9:06 pm
gan Blewgast
Yn anffodus, mae´n rhaid dysgu´r rheolau ac os wyt ti fel fi, mae hynny´n ddiflas!!


Aye!! :crio: :crio:

Ond ma'r darnau yn anodd tu hwnt - lot gwaeth na gramadeg AS!! a dwi'n dwli ar ramadeg......uh-oh!! :?

PostioPostiwyd: Iau 04 Rhag 2003 12:35 pm
gan Cymrocwl
Oes gennyt ti gopi o´r llyfr hynod o ddiddorol gwnaeth Peter Wyn Tomos ysgrifennu?? Gramadeg y Gymraeg.

Galla i gredu bod hi´n anoddach (neu ´anos´ fel byddai´r adran yn dweud :P ) nag AS, roedd seminarau Gloywi Iaith llynedd yn her rhan fwya´r amser, yn enwedig peth cyntaf bore Mercher ar ôl noson hwyr!

PostioPostiwyd: Iau 11 Rhag 2003 3:36 pm
gan Lowri
Llinos Dafydd a ddywedodd:Ond ma'r darnau yn anodd tu hwnt - lot gwaeth na gramadeg AS!! a dwi'n dwli ar ramadeg......uh-oh!! :?


Paid a becso Llinos fach, ma pawb yn yr 1 bad!!! sdim byd da ti golli bethbynnag wrth drial!! Os ei di'n styc, cofia am y rebal wicendar!!! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2004 9:25 pm
gan Bethan517
Ymgeisiais i am ysgoloriaeth yn y Gymraeg i Brifysgol Bangor. Lot o sgwennu odd e, pethe fel gwerthfawrogi cerdd, gwerthfawrogi darn o rhyddiaeth, sgwennu creadigol a mynegi barn dwi'n credu!

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2004 10:34 am
gan Blewgast
Wel.......na beth od Bethan!

Dwi newydd sefyll arholiad bangor wthnos yma! :?
Y papur cymraeg wedi newid - odd rhaid ateb 2gwestiwn......gwerthfawrogi naill ai cerdd neu hunangofiant, a mynegi barn ar un o destunnau y cwrs lefel A!!
Ath e'n oreit dwi'n meddwl......ond rodd y papur cyffredinol yn y pnawn yn bolycs llwyr!! Odd e fod para 2awr, ond on i mas o na ar ol 50munud!! Ond fy mai i yw hynna achos stim synnwyr cyffredin da fi!!

Bydda i'n sefyll ysgoloriaeth aber cyn bo hir.......gobeithio eith e'n iawn!! :? Ond yn y bon, dwi'n meddwl bo fi ishe mynd i Fangor ta beth - ond man y man i fi drio aber fyd!! Man y man y mwnci!! :winc:

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2004 7:57 pm
gan Bethan517
Dere i Fangor blwyddyn nesa! Dwi yn y flwyddyn gynta a dwi di cael amser gwych ers bod yna!! On i yn y stafell arholiad am y papur cyffredinol hyd yn oed llai o amser na ti! On i mas o na ar ol hanner awr!!

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2004 8:11 pm
gan Blewgast
On i yn y stafell arholiad am y papur cyffredinol hyd yn oed llai o amser na ti! On i mas o na ar ol hanner awr!!


Blincin 'ec!! :ofn:
Ges t ysgoloriaeth i fynd na te??