Tudalen 1 o 1

TOC

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:35 pm
gan Geraint
Pwy mor hir yw 'toc'?

Tan Toc- tan pryd? :?

toc- oes na amser safonnol pan ma rhywun yn deud toc?

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:54 pm
gan Leusa
Tic toc, nid yw'r cloc yn bwysig!
Mae o fel deud 'tan wedyn!' neud 'hasta luego' neu 'yn y man' neu 'yn y munud' neu 'mewn chydig'.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:56 pm
gan Geraint
Dwin gwybod pryd iw ddefnyddio, ond os basa rhywun yn deud 'byddai nol toc', pwy mor hir fydde chi'n aros amdanynt? Pwy mor hir yw toc?

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 4:10 pm
gan brenin alltud
Drycha yng Ngeiriadur y Brifysgol - falle'i fod yn perthyn rywffordd i 'tocio', neu tocyn (o fwyd) neu'n enw arall .. ond falle hefyd mai o tic-toc y daw fel mae Leusa'n dweud!!!

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 4:30 pm
gan Cardi Bach
pe bydde rhywun yn gweud - "fydda i nol toc" wrtha i Geraint, bydden i'n dishgwl nw nol...toc. Mae'n dibynnu sbo ar gyd-destun pryd ma nhw'n weud ee os y'n nhw'n mynd i'r siop lawr hewl bydde o fewn awr yn rhesymol, ond os y'n nhw'n mynd i Awstralia, yna bydde mesur yn ol y siop lawr hewl ddim yn rhesymol...os wyt ti'n deall be sda fi.

its ol relatif, weden i.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 6:22 pm
gan Geraint
Diolch Leusa, Cardi a Brenin Alltud, dwi'n gwbod fy nhocs nawr :)