A'i Esgob Anglicanaidd oedd yn gyfrifol am gynnal yr Iaith?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A'i Esgob Anglicanaidd oedd yn gyfrifol am gynnal yr Iaith?

Postiogan Morgan » Sad 22 Tach 2003 6:27 pm

Yr Esgob William Morgan oedd yn gyfrifol am gynnal yr Iaith Gymraeg drwy gyfieithu'r Bebil i'r Gymraeg. Ei waith ef sydd wedi sicrhau bod y Gymraeg yn fyw hyd heddiw.

Mae sawl iaith lleiafrifol wedi marw yn y blynyddoedd diwethaf, ar rheswm am hynny yw nad oedd ganddynt beibl yn ei hiaith nhw. Yn ddios felly yr Esgob ydi arwr fwyaf Cymru a'r iaith Gymraeg.

Beth i chi'n feddwl?
Morgan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 12:48 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Geraint » Llun 24 Tach 2003 4:25 pm

Cytuno Morgan, ei waith oedd yn gyfrifol, ond hefyd y ffaith fod yr awdurdodau wedi gadael i fobl addoli yn Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan huwwaters » Maw 25 Tach 2003 10:17 pm

Oeddech chi'n gwbad rhai o rhein am William Morgan?

Siwr neith Ifan Morgan Jones licio hwn: Cafodd yr Esgob William Morgan drafferth efo'r awdurdodau am wisgo arfwisg yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Yr oedd yn curo'i fam.

Gwrthododd i bobl tlawd casglu pren tan yn ystod y Gaeaf.

Be nesa?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Morgan@Aber » Iau 29 Ion 2004 1:06 am

huwwaters a ddywedodd:Oeddech chi'n gwbad rhai o rhein am William Morgan?

Siwr neith Ifan Morgan Jones licio hwn: Cafodd yr Esgob William Morgan drafferth efo'r awdurdodau am wisgo arfwisg yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Yr oedd yn curo'i fam.

Gwrthododd i bobl tlawd casglu pren tan yn ystod y Gaeaf.

Be nesa?


Oes gen ti dystiolaeth fod hyn yn wir huwwalters?? Os na byddai'n beth gwael i ti ddwyn cam-dystiolaeth yn erbyn yr esgob. Cofia, digon hawdd yw cyfansoddi pethau am bobl ar ol iddynt gyrraeth pen syfydliad megis Eglwys.

A'i gwirionedd yw'r hyn sydd gen ti weud???
Morgan@Aber
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Iau 04 Rhag 2003 12:34 pm

Postiogan Chwadan » Iau 29 Ion 2004 1:30 am

Mi roedd Lis y Cynta yn trio cael Protestaniaeth yn flaenllaw ym mhob rhan o Brydain. Er mwyn hyn roedd rhaid cael Beibl Cymraeg neu fasa'r Cymry ddim yn medru deall y Beibl Lladin er mwyn deall be oedd Protestaniaeth. Lly cafodd deddf ei phasio er mwyn cyfieithu'r Beibl. William Morgan oedd y boi nath y cyfieithiad gwych o'r Beibl (heb anghofio Salebury) a mawr yw ein dyled iddyn nhw (ac i Lis y Cynta, yn anffodus :wps:)
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Leusa » Iau 29 Ion 2004 10:41 am

Huw, 'dw i'n meddwl bo'r 'ffeithiau' yna'n amherthnasol braidd :( !
Mae'r Beibl wedi cynnal yr Iaith dros y blynyddoedd. Hefyd y cymdeithasu Cymraeg a ddaeth o fynd i wasanaethau ac ysgolion Sul mewn Cymunedau Cymreig. Dyn pan ei bod hi yn gymain o biti bod cymaint o gapeli ac eglwysi yn cau y dyddia yma. Ma'r toriadau ar gymdeithasu mewn cymunedau yn gig go hegar i'r iaith.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Nick Urse » Iau 29 Ion 2004 11:23 pm

huwwaters a ddywedodd:Oeddech chi'n gwbad rhai o rhein am William Morgan?

Siwr neith Ifan Morgan Jones licio hwn: Cafodd yr Esgob William Morgan drafferth efo'r awdurdodau am wisgo arfwisg yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Yr oedd yn curo'i fam.

Gwrthododd i bobl tlawd casglu pren tan yn ystod y Gaeaf.

Be nesa?


Gwrthod i bobol hel pricia ar ddydd Sul oedd o. Hen goel Gymreig. Os oedda chdi'n hel pricia ar y Sabath ersdalwm oedda chdi'n siwr dduw o gal dy gipio i'r Lleuad....
Yr un peth yn wir tasa chdi'n chwara cardia ar ddydd Sul....
....ne dorri gwinadd dy draed.... Wir yr.

Fydda i byth yn torri gwinadd 'y nhraed ar ddydd Sul, na hel pricia chwaith (jysd rhag ofn. Dach chi byth yn gwbod pwy sy'n sbio.)
Ara deg a fesul dipin ma' stwffio bys i din gwybedyn
Rhithffurf defnyddiwr
Nick Urse
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 78
Ymunwyd: Sul 21 Medi 2003 8:00 pm

Postiogan Iago2 » Gwe 06 Chw 2004 10:32 pm

Wel yn sicr Wil Mog yw'r boi i mi!
Iago2
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 38
Ymunwyd: Mer 10 Rhag 2003 7:57 pm
Lleoliad: Cardi ar goll yn y Gog

Postiogan Macsen » Gwe 06 Chw 2004 10:35 pm

huwwaters a ddywedodd:Oeddech chi'n gwbad rhai o rhein am William Morgan?

Siwr neith Ifan Morgan Jones licio hwn: Cafodd yr Esgob William Morgan drafferth efo'r awdurdodau am wisgo arfwisg yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Yr oedd yn curo'i fam.

Gwrthododd i bobl tlawd casglu pren tan yn ystod y Gaeaf.

Be nesa?


Neith bobl stopio trio offendio fi? Agnostic dwi for crying out loud! Dy eich pwerau of cymeryd enw Duw mewn ofer ddim yn gweithio yn fy erbyn!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan morgansw12 » Maw 29 Meh 2004 1:23 pm

Da iawn i'r hen Will Morgan am ei waith o gyfieithu. Trueni does neb yn darllen y Beibl erbyn hyn. Efallai dyna pan ryden ni'n colli yn rygbi a pheldroed.
Trueni hefyd doedd cyfieithiad tebyg i'r Gernyweg.
Rhithffurf defnyddiwr
morgansw12
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 56
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 10:51 am
Lleoliad: Llundain

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 42 gwestai

cron