Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 29 Meh 2004 4:27 pm
gan Hogyn o Rachub
Gwych, un o Gymry'r mileniwm, yn fy marn i. Fysa'n ni'n siarad Cymraeg heb y Beibl? Anodd dweud, yntydi. Ond amheuaf a fyddan ni yn.

Y Beibl oedd yn gyfrifol am gynnal safon yr iaith am flynyddoedd maith - mae safon ein Cymraeg ni heddiw yn eitha gwan ar y cyfan. Credaf bod yn rhaid i rhyw gryfrwng newydd, y cyfryngau o bosib, gwneud hyn. Yn anoffodus, dydyn nhw ddim ar y funud.

Cytuno gyda Hogyn o Rachub!

PostioPostiwyd: Maw 29 Meh 2004 5:08 pm
gan Martin Llewelyn Williams
Cytuno 100% gyda sylwadau Hogyn o Rachub. Bocs sebon unwaith eto?Ia-pam lai! Y caswir ydi mai slot ar Channel 4 yw S4C a dim byd arall.Iawn-mae slot Gymraeg ar C4 yn well na dim byd.Hefyd-mi wnaeth yna lawer o Gymry-Cymraeg frwydro yn galed iawn er mwyn sefydlu S4C. Fodd bynnag, oni fyddai cynyddu'r oriau o ddarlledu Cymraeg ar analog yn gwella Cymraeg pawb? A yw hyn braidd yn ara deg o gofio datblygiad y peth digidol ma?Dim yn siwr. Beth yw'r peth agosaf at Beibl Cymraeg yn y Gymru gyfoes? Cwestiwn gwirion? Efallai mai'r ateb delfrydol fyddai Geiriadur yr Academi, Geiriadur Prifysgol Cymru neu y Sin Roc Cymraeg.Efallai fod hyn yn gwestiwn braidd yn annodd i'w hateb-mae'r oes wedi newid cyn gymaint. A fydd Y Byd yn cael ei ddarllen gan filoedd ar filoedd (fel beibl William Morgan) ac yn gwella Cymraeg pob darllenydd?

PostioPostiwyd: Maw 29 Meh 2004 5:22 pm
gan Treforian
Beth yw'r peth agosaf at Beibl Cymraeg yn y Gymru gyfoes?
Maes-e??

Re: Cytuno gyda Hogyn o Rachub!

PostioPostiwyd: Maw 29 Meh 2004 9:09 pm
gan Hogyn o Rachub
Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Beth yw'r peth agosaf at Beibl Cymraeg yn y Gymru gyfoes?


Yn fy marn i, sefydlu'r ysgolion Gymraeg a'r mudiadau ysgolion meithrin yw'r pethau mwyaf pwysig yn hanes yr iaith Gymraeg. O leiaf drwyddynt hwy y mae gobaith i'r dyfodol, yr un gobaith a roddodd y Beibl i'r iaith hanner mileniwm yn ôl. Ond yn osystal, y sîn roc Gymraeg a diwylliant cyfoes, a beth am yr Eisteddfod? Wn i ddim, ond heb y Beibl Gymraeg, a fuasai'r un o'r rheiny'n bodoli rwan? Dw i ddim yn gwybod.

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd: A fydd Y Byd yn cael ei ddarllen gan filoedd ar filoedd (fel beibl William Morgan) ac yn gwella Cymraeg pob darllenydd?


Dyma fy ngobaith i am Y Byd. Mae gynnon ni'n gyffredinol (mae gen i yn sicr) Gymraeg bratiog , a gormodedd ohono. Mae'n ddyletswydd ar y cyfryngau Cymraeg gynnal safon yr iaith dros y blynyddoedd nesaf: wedi'r cyfan, beth sy'n waeth ... dim Cymraeg o gwbl, neu Cymraeg sydd wedi datblygu i fod yn ddim ond rhyw ddeialect Saesnaeg rhad?

PostioPostiwyd: Maw 29 Meh 2004 9:45 pm
gan bartiddu
Nage William Salesbury gyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg yn gyntaf ac yn haeddi rhannu bach o glod hefyd gyda William Morgan?

Ond ta waeth, parch llawn i'r MC William Morgan! 8)

PostioPostiwyd: Sad 03 Gor 2004 4:17 pm
gan Treforian
Dw i'n cytuno hefo chdi. Taswn i'n gallu rhoi carmas sachdi'n ca'l un.
Does yna nemor ddim yn cael ei ddeud am Salesbury yn y gwersi yn rysgol sy'n sôn am y cyfieithu.