Tudalen 1 o 2

Be ydi Serendipity, o a flagellation yn w gymraeg?

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 1:13 am
gan ffwrchamotobeics
diolwch..Dim help gan Bruce :crio:

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 8:03 am
gan nicdafis
Ti'n sgwennu cerdd serch? ;-)

(Dw i'm yn gwybod yr ateb, sori. Dw i'n siwr y bydd cyfieithydd neu ddau yma yn y man.)

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 10:28 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Flagellation yw chwipio, nag e fe?

Serendipity? Hmmm... llon-ganfod? Na, ma' hwnna'n ffwcin cachu. Swnio gormod fel llong danfor.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 4:59 pm
gan Alys
Serendipity ydi serendipedd (yymmm yn ôl Bruce :winc: )

A fflangellu/fflangelliad am flagellation.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 5:07 pm
gan Garnet Bowen
Paid a defnyddio Serendipedd. Derbyn nad oes union air yn y Gymraeg - peth felna ydi iaith. Tria 'damwain hapus', neu rywbeth tebyg.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 5:15 pm
gan Alys
Yn wir dwi'n gweld dy bwynt di, ac eto, dwi newydd ddarganfod (mae gen i eiriadur wrth law, digwydd bod :winc: ) fod y gair yn dod o chwedl Persia The Thrree Princes of Serendip, felly yn yr achos hwn, oes na rywbeth o'i le hefo rhoi terfyniad Cymraeg ar Serendip?

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 8:30 pm
gan Aran
neu Serendib, sydd yn sillafiad amgen ar hen enw'r ynys hyfryd... cytuno efo Alys - oedd fy ymateb cyntaf i ofyn beth oedd y Saesneg am serendipity... :winc:

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 12:25 pm
gan Garnet Bowen
Alys a ddywedodd:Oes na rywbeth o'i le hefo rhoi terfyniad Cymraeg ar Serendip?


Be sy'n fy mhoeni i ydi fod idiom a chystrawen Gymraeg yn cael ei cholli. Mae rhywun yn dueddol o ofyn "Be ydi'r gair Cymraeg am X?" yn hytrach na "Be ydi'r ffordd Gymraeg o ddeud X?".

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 4:43 pm
gan Jeni Wine
Cytuno 'fo Garnet

Y broblem efo defnyddio Serendip/Serendib ydi y byddai wastad yn atgoffa rhywun o'r Saesneg ac felly yn ei wneud yn drwsgwl ac yn brifo'r glust

Be am ffawd, ta di hynny ddim digon? Ymha gyd-destun mae o'n cael ei ddefnyddio?

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 7:04 pm
gan Dyl mei
Ym Shawnsgwrdd?