Be ydi Serendipity, o a flagellation yn w gymraeg?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be ydi Serendipity, o a flagellation yn w gymraeg?

Postiogan ffwrchamotobeics » Llun 24 Tach 2003 1:13 am

diolwch..Dim help gan Bruce :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan nicdafis » Llun 24 Tach 2003 8:03 am

Ti'n sgwennu cerdd serch? ;-)

(Dw i'm yn gwybod yr ateb, sori. Dw i'n siwr y bydd cyfieithydd neu ddau yma yn y man.)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 24 Tach 2003 10:28 am

Flagellation yw chwipio, nag e fe?

Serendipity? Hmmm... llon-ganfod? Na, ma' hwnna'n ffwcin cachu. Swnio gormod fel llong danfor.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Alys » Llun 24 Tach 2003 4:59 pm

Serendipity ydi serendipedd (yymmm yn ôl Bruce :winc: )

A fflangellu/fflangelliad am flagellation.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Garnet Bowen » Llun 24 Tach 2003 5:07 pm

Paid a defnyddio Serendipedd. Derbyn nad oes union air yn y Gymraeg - peth felna ydi iaith. Tria 'damwain hapus', neu rywbeth tebyg.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Alys » Llun 24 Tach 2003 5:15 pm

Yn wir dwi'n gweld dy bwynt di, ac eto, dwi newydd ddarganfod (mae gen i eiriadur wrth law, digwydd bod :winc: ) fod y gair yn dod o chwedl Persia The Thrree Princes of Serendip, felly yn yr achos hwn, oes na rywbeth o'i le hefo rhoi terfyniad Cymraeg ar Serendip?
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Aran » Llun 24 Tach 2003 8:30 pm

neu Serendib, sydd yn sillafiad amgen ar hen enw'r ynys hyfryd... cytuno efo Alys - oedd fy ymateb cyntaf i ofyn beth oedd y Saesneg am serendipity... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Garnet Bowen » Maw 25 Tach 2003 12:25 pm

Alys a ddywedodd:Oes na rywbeth o'i le hefo rhoi terfyniad Cymraeg ar Serendip?


Be sy'n fy mhoeni i ydi fod idiom a chystrawen Gymraeg yn cael ei cholli. Mae rhywun yn dueddol o ofyn "Be ydi'r gair Cymraeg am X?" yn hytrach na "Be ydi'r ffordd Gymraeg o ddeud X?".
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Jeni Wine » Mer 10 Rhag 2003 4:43 pm

Cytuno 'fo Garnet

Y broblem efo defnyddio Serendip/Serendib ydi y byddai wastad yn atgoffa rhywun o'r Saesneg ac felly yn ei wneud yn drwsgwl ac yn brifo'r glust

Be am ffawd, ta di hynny ddim digon? Ymha gyd-destun mae o'n cael ei ddefnyddio?
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Dyl mei » Mer 10 Rhag 2003 7:04 pm

Ym Shawnsgwrdd?
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron