Yn wir dwi'n gweld dy bwynt di, ac eto, dwi newydd ddarganfod (mae gen i eiriadur wrth law, digwydd bod ) fod y gair yn dod o chwedl Persia The Thrree Princes of Serendip, felly yn yr achos hwn, oes na rywbeth o'i le hefo rhoi terfyniad Cymraeg ar Serendip?
Alys a ddywedodd:Oes na rywbeth o'i le hefo rhoi terfyniad Cymraeg ar Serendip?
Be sy'n fy mhoeni i ydi fod idiom a chystrawen Gymraeg yn cael ei cholli. Mae rhywun yn dueddol o ofyn "Be ydi'r gair Cymraeg am X?" yn hytrach na "Be ydi'r ffordd Gymraeg o ddeud X?".