Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 10:11 am
gan Chris Castle
Y broblem efo defnyddio Serendip/Serendib ydi y byddai wastad yn atgoffa rhywun o'r Saesneg ac felly yn ei wneud yn drwsgwl ac yn brifo'r glust


Dyw e ddim yn Sisneg - gair benthig yw hi.

Serendip - hen enw am Sri Lanka.

"Tri tywysog lwcus o Serendip" oedd Stori oddi lle gwnaeth y gair datblygu.

Blydi nashis rhagfarnllyd, paranoid a gwrth Saesnig .... mwmian ... grwgnach ... :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 10:22 am
gan Garnet Bowen
Chris Castle a ddywedodd:Dyw e ddim yn Sisneg - gair benthig yw hi.


Hmmmm. Efallai mai o Sri Lanka y doth y gair gwreiddiol, ond o ochr draw i Glawdd Offa mae o 'di dwad yma. Fel bob blydi gair arall mae'r Gymraeg yn ei fenthyg.

Mae Saesneg yn iaith ffantastic am ei bod hi wedi teithio'r byd, gan fenthyg geiriau o bob iaith arall. Ond mond un dylanwad sydd 'na ar y Gymraeg. Yn y diwedd, mi fyddwn ni 'di menthyg cymaint o eiriau fel y bydd hi'n amhosib deud y gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Saesneg.

Blydi Cymry heddiw, methu siarad yr iaith yn iawn....dim parch at draddodiad....grrr :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 11:14 am
gan Jeni Wine
Chris Castle a ddywedodd:
Y broblem efo defnyddio Serendip/Serendib ydi y byddai wastad yn atgoffa rhywun o'r Saesneg ac felly yn ei wneud yn drwsgwl ac yn brifo'r glust


Dyw e ddim yn Sisneg - gair benthig yw hi.

Serendip - hen enw am Sri Lanka.


Ia iawn oce dwi'n dallt dy fod di'n wybodus iawn mewn materion fel hyn ond be dwi'n trio'i ddeud ydi wrth ddefnyddio'r gair 'serendipedd' rwyt ti'n cofleidio'r Saesneg - waeth o ba iaith y tarddiodd y peth yn y lle cynta. Unwaith y byddwn ni'n dechrau gadael i eiria 'gneud' o'r fath dreiddio i'n hiaith bob dydd ni, wel dyna ben ar y Gymraeg. Sut nat wyt ti'n dallt hyn Chris? Ydi o'n poeni dim arna chdi?

Dwi'n dallt bod iaith yn ddeinamig a bod yn rhaid iddi newid a datblygu os ydi hi am fyw, ond a ddylai hynny olygu creu geiriau allan o eiriau Saesneg? Go brin.

Pam ddim creu gair newydd sbon danlli grai yn hytrach nag ail-dwymo'r gair Saesneg? Be ddiawl sy o'i le ar hynny?

Dwi'n licio shawnsgwrdd/siawnsgwrdd

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 11:18 am
gan Jeni Wine
Chris Castle a ddywedodd:Blydi nashis rhagfarnllyd, paranoid a gwrth Saesnig .... mwmian ... grwgnach ... :winc:


Yndw dwi'n genedlaetholwr, a sginim cwilydd o'r peth. Yndw dwi'n paranoid ac mai alla i fod yn ragfarnllyd - a hynny am resymau da. Ac wrth gwrs mod i ddim yn wrth-Saesnig, y lembo gwirion. Cefnogol i'r Gymraeg ydw i. A ma na wahaniaeth sdi... :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 12:09 pm
gan Chris Castle
Jeni Wine a ddywedodd:
Chris Castle a ddywedodd:Blydi nashis rhagfarnllyd, paranoid a gwrth Saesnig .... mwmian ... grwgnach ... :winc:


Yndw dwi'n genedlaetholwr, a sginim cwilydd o'r peth. Yndw dwi'n paranoid ac mai alla i fod yn ragfarnllyd - a hynny am resymau da. Ac wrth gwrs mod i ddim yn wrth-Saesnig, y lembo gwirion. Cefnogol i'r Gymraeg ydw i. A ma na wahaniaeth sdi... :rolio:


o gorau.

Pam dweud Serendip te? Beth am fathu ymadrodd newydd. Dyna lle mae ieithoedd yn datblygu. Pobl (cymeriadau) sy'n defnyddio'r iaith mewn ffyrdd gwahanol a lliwgar. Clywais yn diweddar am "Dwylo fel mydfflaps mansell". Engraifft arall yw Sbooberisms wedi pistar Smooner a wnaeth gweud deiriau yn rong.

Beth am hyn
Serendip = ar hap ffodus, Damweinol da, Ffawd ffodus, neu rwpeth debyg.

Yn lle CWYNO CWYNO CWYNO - bod yn mentrus!
Petai'r Cymry yn fwy entrepreneurial 'se llai o broblemau ieithyddol. Drycha ar fy arwyddair.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 12:14 pm
gan Chris Castle
Alys a ddywedodd:(mae gen i eiriadur wrth law, digwydd bod :winc: )


Dim ond yr un :winc: