Ymuno â dosbarth. Mae fy mhartner wedi bod mewn dosbarth ers mis Hydref ac mae hi'n sgwennu englyn wrth i mi deipio hwn.
Darllen popeth ti'n gallu ffeindio. Os nag wyt ti'n barod i ddarllen gwaith beirdd eraill, pam dylen nhw ddarllen dy waith di? (Sa i'n gwybod am farddoniaeth Cymraeg, ond yn Saesneg tybiwn i fod mwy o bobl yn sgwennu "barddoniaeth" nag sy'n darllen barddoniaeth go iawn.)
Mynegi <a href="http://www.cynghanedd.com">Annedd y Cynganeddwyr</a>. Dwyn eu syniadau gorau, a'u rhoi nhw i Gerallt cyn iddyn nhw gael cyfle.
Dysgu sut i deipio mewn geiriau go iawn. Fydd gan Alan Llwyd ddim amynedd gyda'r busnes "v d sgwnu hn". Nid ffôn ar y lôn yw cyfrifiadur. Mae digon o le ar ein sgrinau ni