Swnio fel rhywbeth gwerth ei drio. A dwi'n siwr fod mwy na jyst Gwaelod y Garth, Caerdydd ac Aberystwyth. Dyle bod pethe fel hyn yn cael eu hysbysebu, dwi'n siwr elai lot o bobl. Ond ydy dosbarthiade fel hyn yn costio?
Ond os mai dysgu dy hunan rwyt ti am neud carwyn, dwi'n meddwl mai llyfr Myrddin ap Dafydd ydy'r offeryn gore ar gyfer y job. Dydy "v jyst mofyn dechre'n strêt awê" ddim yn hawdd iawn gyda chrefft fel cynganeddu (atgoffa fi o'r gerdd na am englyn boil-in-the-bag), mae angen ychydig o ymdrech, ac amynedd i ddarllen y llyfr
Dechreua gyda'r gynghanedd lusg neu rwbeth, sy'n hawdd, a wedyn symud ymlaen pan ti'n dechre mynd i'r swing. Bydde'n lot o help hefyd nabod rhywun sy'n cynganeddu, jyst i helpu ti ar dy ffordd (i holi "Ydy'r gynghanedd yma'n iawn?" a.y.b).
Pob lwc