Tudalen 1 o 2

Y llythyr H

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 7:50 pm
gan Madrwyddygryf
Gallai rwyun esbonio pam rydym yn rhoi 'H' o flaen rhai geiriau yn y gymraeg.
E.e. eu hatgyfenerthu

sgennaim syniad :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 7:53 pm
gan Alys
Mae fel treiglad o flaen llefariaid ar ôl ei (benywaidd), ein ac eu. Ella llefydd erill ond dwi wedi blino gormod heno i feddwl am y tro :?

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 7:54 pm
gan Barbarella
Achos fydde hwntws ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng "ei atgyfnerthu" ac "eu atgyfnerthu"... :winc:

Pam y'n ni'n trafferthu efo unrhyw fath o dreiglo? (yr un fath o beth ydi o mewn gwirionedd)

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 11:56 pm
gan Blewgast
aye, rhaid treiglo llafariaid ar ol y rhagenwau dibynnol blaen (ei, eu , ein).....anadliad caled neu rhywbeth??

Ond hei...beth odw i'n ddeall? :rolio:

Dwi jyst yn neud e'n naturiol, heb feddwl am y rheswm pam!

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 9:22 am
gan Garnet Bowen
Barbarella a ddywedodd:Pam y'n ni'n trafferthu efo unrhyw fath o dreiglo? (yr un fath o beth ydi o mewn gwirionedd)


Am ei bod hi'n haws siarad yn naturiol felly. Nid ryw hen reol sydd wedi cael ei gorfodi arno ni ydi treigliadau, ond rhywbeth sydd wedi esblygu'n naturiol.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 9:29 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Barbarella a ddywedodd:Achos fydde hwntws ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng "ei atgyfnerthu" ac "eu atgyfnerthu"... :winc:


Beth, achos nag y'n ni'n gweud 'u' fel bod ceg llawn taffi 'da ni?

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 6:29 pm
gan brenin alltud
Sori, ond llythyren nid llythyr ddyle fod yn y teitl.

O co hi off to :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 9:40 pm
gan Barbarella
Garnet Bowen a ddywedodd:Am ei bod hi'n haws siarad yn naturiol felly. Nid ryw hen reol sydd wedi cael ei gorfodi arno ni ydi treigliadau, ond rhywbeth sydd wedi esblygu'n naturiol.

Do'n i ddim yn dadlau yn eu herbyn nhw, jyst cwestiwn rhethregol. Dwi'n meddwl bod treiglo yn reit gall, a ma lot o ieithoedd yn gwneud yr peth mewn gwirionedd (er nad ydyn nhw'n sgrifennu nhw lawr!).

Dwi'n meddwl mai'r hyn sy'n gwylltio pobl efo treigladau, a'u cael nhw i ddweud pethau fel "pam na wnewn ni ddileu treigladau yn gyfangwbl?", yw nid y treiglo ond y ffaith bod gennym cenedl enwau. Mae hynny yn beth cwbl hurt (pam fod cadair yn ferch a bwrdd yn fachgen? does dim gwir rheswm na synnwyr i'r peth), a hynny sy'n arwain at lot o'r dryswch treiglo.

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 1:52 pm
gan Mr Gasyth
Ma gan rhan fwyaf o ieithoedd genhedloedd geiriau (Saesneg yw'r eithriad amlwg, ond mi oedden nhw'n bodoli yn Saesneg hefyd ers talwm iawn). Pam ei bod hi felly, dwi'm yn siwr, ond os dwi'n cofio'n iawn gellir egluro treigliad meddal ar ol ansoddair benywaidd drwy fynd yn ol i'r Frythoneg ble roedd pob enw benywaidd yn gorffen efo 'a' gan feddalu'r gytsain ar ddechrau'r ansoddair sy'n dilyn yn syml iawn am ei fod o'n haws i'w ddweud.

er enghraifft: 'afona fawra' yn haws ei ddweud na 'afona mawra'.

Dwnim be di'r eglurhad am y lleill, rhaid gofyn i rywyn efo gradd yn y Gymraeg. Ond dwi'n ame ma'r eglurhad dros lawer o'r treigliadau ydi fod y Brythoniaid yn siarad yn ddiog!

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2003 6:46 pm
gan brenin alltud
Aled a ddywedodd:... rhaid gofyn i rywyn efo gradd yn y Gymraeg.


:? 'Sda rhan fwya' o rheiny ddim syniad, 'chan!