Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 28 Tach 2003 6:21 pm
gan mred
Pwynt eitha diddorol ydi bod yr '-a' fenywaidd Frythoneg derfynol wedi goroesi ar ryw lun yng ngweddillion prin yr iaith yng Ngogledd Lloegr. Blencathra (enw mynydd) = Blaencadair; Mercheta (gair mewn dogfen gynnar) = Merch.

Ac yr oedd dull (llurguniedig wedi traul y canrifoedd) o gyfrif da yn rhai o'r siroedd gogleddol (gan gynnwys Swydd Lincoln, sy braidd yn annisgwyl) a ddeilliai o'r Frythoneg (neu Hen Gymraeg), a'r geiriau am dri a phedwar oedd 'tethera' a 'pethera'. Tybiaf mai ffurfiau benywaidd ar yr ansoddeiriau oedd y rhain, o gofio'r hyn a gyfrifid.

Na, fues innau ddim yn dilyn cwrs Cymraeg chwith nac yn piclo'r celloedd bach llwydion yn y Coleg! :winc: