wida-wiw!! Sws drydanol - un drici ar y diawl....
Offer angenrheidiol: sdafell dywyll, carpat shagpile, gwefusau a phartnar.
Rhaid i'r ddau ohonoch ddechrau rhwbio'ch traed ar y shagpile cyn clampio ar wefla'ch gilydd...gan greu sbarcs....ma Jeni Wine yn fwy o egsbyrt na fi, i ddeud y gwir.
sws braich fatha'r rheini ar ffilmia du a gwyn ersdalwm, lle odd y boi yn dechra drw swsian cefn y llaw.... ymlwybro'n secslyd i fyny'r fraich gan gosi'r rhych bach ar gefn y penelin.... i fyny at yr ysgwydd, y gwddw a'r wegil.... mmmmmm.... ond os 'di amsar yn brin, dosna'm byd fatha snogsan sydyn, annisgwl gin riwin ti'n ffansiio go iawn
Ara deg a fesul dipin ma' stwffio bys i din gwybedyn