Tudalen 1 o 2

Yng Nghymru?

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 7:51 pm
gan SbecsPeledrX
Sorri fod yn boen a ddylswn i wybod ond mae rhywyn wedi gofyn i mi prawfddarllen poster Cymraeg iddynt. Yn Nganolfan Hamdden y Rhyl mae'r poster yn ei ddeud. Dwi'n eitha sicr mai yng nghanolfan ddylsai fod ond does dim llyfrau yma i helpu ac mae nhw'n bendant eu bod yn gywir a dwi'n dechrau amau fy hun. Os nad oeddynt eisiau fy marn dwim yn siwr pam natho nhw ofyn ond help .... Dwi'n iawn?

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 8:03 pm
gan SbecsPeledrX
O wel - rhyhwyr. Fydd rhaid iddynt derbyn fy ngair! ;)

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 8:10 pm
gan Dylan
ti sy'n iawn. 'Yng Nghanolfan' yn gywir. :)

PostioPostiwyd: Sul 21 Rhag 2003 9:25 pm
gan Ramirez
aye, dwi'n siwr mwy na heb

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 9:46 am
gan Mr Gasyth
yng nghanolfan, yn bendant.
treigliad llaes yn dilyn yr arddodiad 'yn'.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 10:15 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dyw 'yn' ddim yn arddodiad. Mae e'n... ummm, rhywbeth arall. Na' i ffindo mas. Yr arddodiaid yw 'am, ar, at, i, o, gan, hyd, heb, wrth, dros, drwy, dan'...

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 10:25 am
gan nicdafis
Aled a ddywedodd:yng nghanolfan, yn bendant.
treigliad llaes yn dilyn yr arddodiad 'yn'.


Treiglad <i>trwynol</i>, siwrli? ;-)

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 10:35 am
gan nicdafis
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Dyw 'yn' ddim yn arddodiad.


Mae mwy nag un "yn". Arddodiad yw e yn yr achos hwn. Gweler Peter Wyn Thomas, <i>Gramadeg y Gymraeg</i>, 5.10.

Mae'n gallu bod yn <i>ategydd berfol</i> hefyd, fel wedi, newydd ac ati.

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 10:57 am
gan Mr Gasyth
Ia sori, trwynol!
:wps:

PostioPostiwyd: Llun 22 Rhag 2003 11:26 am
gan SbecsPeledrX
:lol: Gwell hwyr na hwyrach am wn i!

Odd y peth di mynd i'r argraffydd cyn i chi faeswyr ddeffro! :winc: